Tân masnachol mawr wedi’i ddiffodd yn dilyn ymateb aml-asiantaeth

Mynychodd dros 40 o griwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub digwyddiad tân masnachol mawr yn Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas ym Mlaenafon gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner.

Ar ôl cyrraedd, wynebodd criwiau tân mawr, datblygedig yn effeithio ar adeilad mawr, tua 80m x 30m, a sawl carafán a cherbyd. Mae’r adeilad a nifer fawr o garafanau a cherbydau wedi’u dinistrio’n llwyr gan dân.

Defnyddiodd y criwiau offer arbenigol, gan gynnwys monitor daear, jetiau rîl pibell, llwyfannau ysgol awyrol a bowsers dŵr, i reoli’r tân yn strategol a’i atal rhag lledaenu i adeiladau cyfagos.

Cynghorwyd aelodau’r cyhoedd i osgoi’r ardal er mwyn caniatáu mynediad i’r gwasanaethau brys. Cynghorwyd trigolion lleol hefyd i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau oherwydd y lefelau uchel o fwg yn yr ardal. Mae’r mesurau hyn bellach wedi’u codi.

Mae ffyrdd hefyd bellach wedi’u hagor, fodd bynnag, cynghorir preswylwyr/deiliaid i fwrw ymlaen yn ofalus gan fod criwiau ac asiantaethau partner dal yn bresennol.

Cafodd un person ei achub o’r safle ac mae pob person arall wedi cael ei gyfrifo.

Bydd criwiau’n aros ar y lleoliad i gynnal ymchwiliadau gydag asiantaethau partner.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad yn ystod y digwyddiad cymhleth a llafurus hwn.

Bydd swyddogion yn aros yn y lleoliad am nifer o oriau i gynnal ymchwiliadau a hoffem atgoffa’r cyhoedd i gymryd gofal yn yr ardal ac o’i chwmpas.

Gweithiodd ein criwiau’n ddiflino i ddiogelu’r ardal a gweithio gydag asiantaethau partner i ddod â’r digwyddiad i ben yn ddiogel.

Byddwn yn parhau i weithio gydag ein partneriaid i amddiffyn ein cymunedau a chadw De Cymru yn ddiogel.”