Rhybudd ar ôl Amheuon bod Tân Glaswellt Bwriadol Wedi Anafu Pedwar o Bobl gan Achosi Difrod

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i gadw llygad barcud ar eu plant ar ôl i’r hyn y credir ei fod yn dân glaswellt ledaenu’n beryglus o agos at ystâd dai gyfagos yn y Rhondda.

Cafodd y Gwasanaethau Brys eu galw tua 4.30yh Ddydd Sul (y 29ain o Fawrth, 2020) yn dilyn adroddiadau bod grŵp o bobl ifanc wedi’u gweld yn cynnau tân ar dir diffaith ar fynydd Trebanog cyn rhedeg i ffwrdd.

Trebanog
Tân Glaswellt yn Nhrebanog

Lledaenodd y tân yn gyflym dros tua 12 hectar o dir a difrodwyd eiddo preswyl, ond llwyddodd ymladdwyr tân – a aeth i’r afael â’r tân am nifer o oriau – i atal difrod mwy difrifol.

Dioddefodd dau o bobl fân losgiadau ac roedd nifer o bobl yn dioddef o anadliad mwg.

Roedd pobl leol a oedd yn ymgasglu yn y fan a’r lle yn wynebu mwy o risg o’u gwirfodd, nid yn unig o’r tân ei hun, ond hefyd o gael Coronafeirws o’i gilydd.

Anogir cymunedau i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgarwch amheus a, lle bynnag y bo’n bosibl, i roi disgrifiadau llawn o’r rhai sy’n gyfrifol gan gynnwys dillad a’r cyfeiriad y byddant yn mynd iddo.

Mae’r heddlu’n cynnal patrolau cydgysylltiedig ar draws yr ardal erbyn hyn i atal gweithgarwch troseddol ac i olrhain y rhai sy’n gyfrifol.

Yn ogystal ag achosi difrod i eiddo a bywyd gwyllt, gall yr holl fwg trwchus sy’n deillio o danau gynyddu’r risg i’r henoed a phobl sy’n agored i niwed â phroblemau meddygol.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg gan danau glaswellt i ddioddefwyr COVID-19 sy’n byw gerllaw.

Dywedodd Mike Rudall, Arolygydd Heddlu De Cymru o’r Bartneriaeth Ddiogelwch Cymunedol:

“Gall gweithredoedd byrbwyll ac anystyriol gan y lleiafrif o bobl amharu’n ddifrifol ar alluoedd y gwasanaethau brys i gyflawni eu rolau hollbwysig yn ystod y cyfnod heriol hwn. ‘Rwy’n gofyn am gymorth rhieni a gwarcheidwaid, a ddylai wybod ble yn union mae eu plant a beth yn union y maent yn ei wneud, yn enwedig ar adeg pan fydd symudiadau pawb wedi eu cyfyngu’n ddifrifol.

“Byddwn yn ymchwilio i adroddiadau yn ymwneud â chynnau tanau’n fwriadol – bydd y sawl sy’n gyfrifol yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu herlyn. Rwy’n annog y plant a’r rhieni i gofio sut y gall cofnod troseddol effeithio ar ddyfodol rhywun.  Yn y pen draw, gallai eu gweithredoedd achosi marwolaethau, anaf difrifol a niwed sylweddol i dir, eiddo a bywyd gwyllt.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau bod ei swyddogion wedi cael eu galw i ddelio â dros 100 o danau ers i ysgolion gau fel rhan o fesurau’r Llywodraeth i fynd i’r afael ag achosion Coronafeirws.

Tân Glaswellt yn Caerphilly

Meddai Jason Evans Prif Reolwr Ardal Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae’r tanau hyn yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a gweithwyr eraill y gwasanaethau brys yn ogystal ag achosi risg difrifol i’r gymuned. Yr wythnos hon, mae ein criwiau wedi mynychu llawer o danau glaswellt ar draws de Cymru y credwn eu bod wedi’u dechrau’n fwriadol. Mae rhai o’r tanau wedi bod yn aruthrol o heriol, ac mae mynd i’r afael â nhw wedi gofyn am lawer o beiriannau tân, defnyddio offer critigol ac adleoli adnoddau o ardaloedd eraill. Mae tanau bwriadol yn annerbyniol ar unrhyw adeg, ond yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, mae’n anghredadwy ein bod yn cael y broblem hon.

“Er ein bod wedi ymrwymo o hyd i ddarparu ymateb brys effeithiol ac effeithlon ar draws De Cymru, bydd dargyfeirio ein hadnoddau i ddelio â thanau bwriadol yn tynnu adnoddau sylfaenol a gwerthfawr oddi wrth ein cymunedau, gan osod risg ddiangen i fywyd. Mae’n rhaid i hyn stopio.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y tanau glaswelllt bwriadol gysylltu â 101 yn syth, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Dylai unrhyw un sy’n gweld tân, neu rywun yn cychwyn tân, ffonio 999 ar unwaith.