Rydyn ni’n ail-greu ein hanes…

Cyn ein Penwythnos 999 cyntaf erioed a gynhelir ym Mae Caerdydd y penwythnos nesaf (o’r 21ain i’r 22ain o Fedi), rydym yn dathlu popeth sy’n hen.

Camwch yn ôl mewn amser gyda ni wrth i’n criwiau ail-greu lluniau o’r Gwasanaeth a dynnwyd hyd at 80 mlynedd yn ôl.

Mae’n anodd dychmygu ble mae’r amser wedi mynd ond mae ein gorsafoedd, ein staff ‘n hoffer yn sicr wedi gweld nifer o newidiadau dros y blynyddoedd.

Rydym bellach yn cwmpasu ardal o tua 1,100 milltir sgwâr, gyda 47 Gorsaf yn gwasanaethu poblogaeth o 1.4 miliwn o bobl.

Yn ystod y digwyddiad byddwn ni’n ymuno â’n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i goffáu ein hanes balch ar y cyd o gadw De Cymru yn ddiogel.

Byddwn yn arddangos archif o luniau hanesyddol, cerbydau hen, gwisg ac offer.

Bydd y penwythnos llawn yn gyfle i weld eich gwasanaethau golau glas ar waith, arddangosiadau achub bywydau byw o ddŵr a cherbydau, yn ogystal â gweld sut mae technoleg wedi datblygu i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio i’ch cadw chi’n ddiogel.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd â’n timau, rhoi cynnig ar ein hoffer a siarad â’n staff recriwtio am sut y gallwch chi fod yn rhan o’n dyfodol.

Ceir mwy o wybodaeth yma: https://www.facebook.com/events/1345270872302593/