Penodi Cadeirydd a Dirprwy Cadeirydd newydd i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Yn dilyn etholiadau lleol Cymru ar 5 Mai 2022, mae’r 24 aelod sy’n rhan o Awdurdod Tân ac Achub De Cymru newydd gael eu cyhoeddi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB).

Yn y CCB, mae’r aelodau’n ethol Cadeirydd a Dirprwy Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, Cadeiryddion a Dirprwy Cadeirydd y Pwyllgorau, ac yn penodi aelodau a fydd yn cynrychioli pob Pwyllgor. Mae’r 24 aelod yr Awdurdod Tân ac Achub yn cynnwys 14 o benodiadau newydd.

Mae’r Cynghorydd Steve Bradwick o Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi’i ethol yn Gadeirydd newydd, ar ôl gwasanaethu ar yr Awdurdod am 15 mlynedd, gyda deng mlynedd yn Ddirprwy Gadeirydd. Y Dirprwy Gadeirydd newydd yw’r Cynghorydd Pam Drake o Gyngor Bro Morgannwg.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Bradwick:

“Rwy’n hynod falch o gael fy ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y cynghorydd cyntaf o Rondda Cynon Taf i gyflawni hyn.

Mae 14 aelod newydd wedi’u hethol i’r Awdurdod, ac rwy’n falch iawn bod cydbwysedd da rhwng y rhywiau ar draws rolau uwch yr Awdurdod.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda holl aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a’r swyddogion i lywodraethu, craffu a llywio gwaith y Gwasanaeth wrth amddiffyn ein cymunedau.”