“Ni allaf fynegi ein diolchgarwch ddigon”

Yn oriau mân fore Iau, rhybuddiwyd gweithredwyr ein Hystafell Reoli gan gymydog i dân mewn tŷ gwydr ym Mhontnewydd, Cwmbrân.  Danfonwyd criw i’r safle i ganfod adeilad allanol a oedd yn wenfflam ac yn agos at dŷ dan feddiannaeth. Gweithiodd Diffoddwyr Tân yn gyflym i ddiffodd y tân a sicrhau fod pob meddiannwr yn ddiogel a di-anaf, ac i gyfyngu’r difrod i eiddo cyfagos.

Gwraig Joel Cox sylwodd ar y tân a chododd y rhybudd. Meddai: “Gan fod f’ystafell wely’n edrych dros y gerddi cefn, dihunais i weld gwawr oren Armagedonaidd o’r tân ac, a bod yn deg, roedd e’n frawychus! Galwais 999 yn syth a chyrraedd y Gwasanaeth Tân wrth i fy mhartner redeg o amgylch gan ddeffro ein cymdogion o’r gwely a’u gwagio o’r tŷ. Synnwyd pob un ohonom gan amser ymateb hynod gyflym eich criwiau a’r fath waith rhagorol a wnaethant wedi iddynt gyrraedd, gan sicrhau nad oedd y tân yn gwasgaru ymhellach. Diolch yn fawr i bob un ohonoch. Ni allaf fynegi ein diolchgarwch ddigon, oherwydd gyda chriw llai galluog ac araf, yn ddiamheuaeth byddai’r tân wedi gwaethygu ac, o bosib, byddai’r annychmygol wedi digwydd. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich gwaith a’ch ymdrech barhaus wrth helpu pobl sy’n profi’r adegau gwaethaf!!!”

Dywedodd Rheolwr Criw Gwylfa Las, Gorsaf Cwmbrân, Ben Graham, a fynychodd y safle: “Rydym wrth ein bodd ag adborth Joel. Dim ond gwneud ein gwaith oeddem ni, ond mae e wastad yn hyfryd i gael ein gwerthfawrogi, a dyma’n union pam rydym yn dod i’r gwaith bob dydd gyda balchder.”