Nadolig yn Serbia i Ymladdwyr Tân o Gymru

Aeth ein hymladdwyr tân i Serbia dros y Nadolig eleni i helpu plant lleol.

Elusen a sefydlwyd yn wreiddiol gan aelodau GTADC yn 2006 yw Blazing to Serbia (B2S0).

Dros gyfnod o amser mae’r elusen wedi darparu offer nad oes ei angen erbyn hyn gan y Gwasanaetha rhoi pwrpas newydd iddo sef achub bywydau mewn cymunedau yn Serbia. Gan weithio gyda Gwasanaethau Tân Serbia, cwrddodd tîm B2S a’r Groes Goch yn Stremska Mitrovica. Mae’r Groes Goch yn cefnogi’r gymuned leol ac yn gweithio gyda B2S i helpu rhoi anrhegion i blant ysgol pentrefi cyfagos, sydd erbyn hyn yn draddodiad blynyddol. Y llynedd casglodd y tîm (sy’n cynnwys ymladdwyr tân gweithredol yn ogystal ag ymladdwyr tân sy wedi ymddeol) roddion a chynhaliwyd diwrnod i godi arian yn ysgol Gatholig y Santes Fair yng Nghaerffili. Codwyd £300 drwy gynnal diwrnod gwisgo eich dillad eich hun, yn ogystal â dros £190 o roddion ar-lein. O ganlyniad hyn oll llwyddodd y tîm i brynu digon o anrhegion i lenwi 9 cês gyda theganau bach, melysion, brwsys dannedd newydd a chosmetigau.

Ar ôl cyrraedd Serbia, treuliodd y tîm y diwrnod cyntaf yno yn paratoi dros 100 o fagiau gan sicrhau bod pob plentyn yn cael anrheg addas. Ar y trydydd diwrnod ymwelodd y tîm ag ysgol fach i ddosbarthu’r anrhegion cyntaf. Yn nes ymlaen yn y dydd aeth pawb yn ôl i Ganolfan y Groes Goch yn Stremska Mitrovika i Siôn Corn gael ddod i’r ganolfan i ddosbarthu gweddill yr anrhegion. Cafwyd yr holl waith caled yn paratoi yn werth chweil wrth weld y plant yn gwenu.

Rhaid cael ymweliad a gorsaf tân i gwblhau pob taith B2S, ac eleni aethon nhw i Stremska Mitrovika lle cychwynnodd yr hanes. Braf oedd gwel faint roedd yr orsaf wedi newid dros y blynyddoedd, cwrdd â chriwiau a gweld ein hen dryc GTADC yn cael ei ddefnyddio o hyd. Gwelodd y tîm hefyd Orsaf y Ddinas sy’n gyfrifol am Novi Sad cyn mwynhau amser hamdden haeddiannol iawn yn y Farchnad Nadolig lleol.

Ceir mwy o wybodaeth am Blazing to Serbia yma: http://blazingtoserbia.co.uk/