Mynd i’r Afael â Llygredd Aer – Diwrnod Aer Glân

Bob blwyddyn, mae llygredd aer yn achosi hyd at 36,000 o farwolaethau yn y DU.

Diwrnod Aer Glân (y 17eg o Fehefin 2021) yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU. Ei nod yw uno cymunedau, busnesau, ysgolion a’r sector iechyd gyda’r nod cyffredin o wneud yr aer yn lanach ac yn iachach i bawb.

Mae llygredd aer yn effeithio ar eich iechyd o’ch anadl gyntaf i’ch olaf, felly ar Ddiwrnod Aer Glân eleni mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn addo gweithio i leihau llygredd aer ac adeiladu dyfodol gydag aer glân i’n cymunedau.

Pam fod Diwrnod Aer Glân yn bwysig i ni a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol ac achub bywyd i rai o’r ardaloedd mwyaf poblog yn Ne Cymru. Mae hyn yn golygu bod gan lawer o’r ardaloedd rydyn ni’n eu gwasanaethu a’u gwarchod lefelau o ansawdd aer pryderus.

Gall lefelau ansawdd aer gwael ddigwydd o ganlyniad cyfuniad o bethau megis trafnidiaeth ffyrdd, cynhyrchu ynni a thanau agored.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Diwrnod Aer Glân trwy:

Siarteri Teithio Iach:

Rydym wedi llofnodi nifer o Siarteri Teithio Iach ledled De Cymru sy’n ein hymrwymo i ystod o gamau i annog a chefnogi mwy o deithio ar gyfer y gwaith a hamdden gan ein personél – gan gyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau cerbydau.

Cerbydau Trydan:

Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o gerbydau trydan a gorsafoedd gwefru cerbydau yn ein Pencadlys yn Llantrisant. Rydym hefyd yn cynnal cynllun amnewid parhaus a fydd, ymhen amser, yn arwain at symud i fflyd o gerbydau cwbl drydanol. Yn ogystal a hyn, rydym yn edrych i dreialu cyfleusterau gwefru trydan mewn nifer o’n Gorsafoedd i annog ein staff a’n criwiau i symud i gerbydau trydan.

Prosiectau Plannu Coed:

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau plannu coed ar draws ein rhwydwaith i hwyluso mwy o sylw i ganopi ledled Cymru mewn ymdrech i wella ansawdd aer ledled Cymru. Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, ail-gartrefodd criwiau o Orsaf yr Eglwys Newydd 12 glasbren!

Cynllun Lleihau Carbon:

Rydym yn gweithio’n barhaus i gyflawni’r amcanion a’r camau a nodwyd yn ein Cynllun Lleihau Carbon.

 

Beth allwch chi ei wneud i helpu i fynd i’r afael â llygredd aer heddiw?

Cerdded, beicio neu sgwter: Mae bod yn sownd mewn traffig yn annifyr a gall hefyd olygu eich bod chi’n agored i lawer o lygredd! Gall aer llygredig o bibelli gwacáu cerbydau eraill gael ei sugno i’ch car ac aros ynddo Felly rydych chi ac unrhyw deithwyr sy’n teithio gyda chi yn anadlu llawer o lygredd.

Gweithio gartref: Os bydd eich cyflogwr yn caniatáu hynny, bydd gweithio gartref o bryd i’w gilydd yn fuddiol gan ei fod yn eich helpu i osgoi cymudo i’r gweithle ac oddi yno yn gyfan gwbl.

Teithio gyda thrydan: Os ydych chi’n perchen neu’n llogi, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi deithio drwy ddefnyddio trydan. Gallech hyd yn oed ystyried cael cerbyd trydan pan fyddwch chi’n cael eich car nesaf.

PEIDIWCH â chynnau tanau sbwriel neu laswellt bwriadol: Mae tanau bwriadol yn beryglus a gallant ledaenu’n gyflym iawn, gan beryglu’r amgylchedd a bywydau. Gall mwg tân ollwng swmphes trwchus o fwg a all niweidio’ch iechyd a pheryglu pobl â chyflyrau anadlol yn fwy byth.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am danau bwriadol, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch chi dân neu unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.

Am fwy o wybodaeth ac i ddarganfod sut i gymryd rhan mewn Diwrnod Aer Glân, ewch i  wefan Diwrnod Aer Glân.

Adnoddau Ychwanegol:

Gwiriwch yr ansawdd aer mewn Cymru

Beicio Cymru

Ramblers Cymru

Cadwch Gymru’n Daclus

Iechyd Cyhoeddus Cymru