Mae Tîm Tân Gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arddangos y technegau ymladd tanau gwyllt diweddaraf

Mae Tîm Tân Gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arddangos y technegau ymladd tanau gwyllt diweddaraf

Yr wythnos hon, croesawodd Tîm Tanau Gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gydweithwyr diffodd tân o bob rhan o’r DU gan ddarparu rhaglen hyfforddi pedwar diwrnod o hyd am y technegau ymladd tanau gwyllt diweddaraf.

Dim ond ychydig o wythnosau wedyn ymunodd y Tîm â chriw bob man o’r DU a ddanfonwyd i gefnogi cydweithwyr rhyngwladol oedd yn brwydro yn erbyn y tanau gwyllt diweddar yng Ngwlad Groeg. Aethant i’r mynyddoedd o gwmpas cymoedd De Cymru gan ddangos mesurau tactegol i leihau’r risg a’r dinistr a achosir gan danau gwyllt bob blwyddyn.

Ymhlith y technegau a arddangoswyd roedd torri a chlirio cymoedd mawr ag isdyfiant a rhedyn gyda pheiriannau iCutter arbenigol sy’n atal lledaeniad tân, a chynllunio i ddefnyddio tân i ymladd tân, ymgymryd â llosgi, gan ymgymryd â llosgi a gydlynir ac a rheolir i atal tân rhag lledaenu yn y dyfodol hefyd.

Teithiodd dau ar bymtheg o ddiffoddwyr tân o Wasanaethau ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Chymru i ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer y rhaglen hyfforddi, a oedd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan ein cydweithwyr gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Craig Hope, Rheolwr Gorsaf a Phrif Swyddog Tanau Gwyllt: ‘Rydym yn falch iawn o gael cymaint o gydweithwyr o bob rhan o’r DU yn ymuno â ni a chael y cyfle i rannu’r wybodaeth a’r profiad rydym wedi’u hennill dros nifer o flynyddoedd yn mynd i’r afael â thanau gwyllt yn ardal De Cymru, ledled y DU ac ar draws y byd.

“Gyda newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r risg o danau gwyllt, mae’n bwysig ein bod yn creu mwy o gyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd a mabwysiadu technegau a ffyrdd newydd o weithio a all gyfyngu ar y dinistr, y distryw a’r risg i fywyd y mae tanau gwyllt yn eu hachosi.

“Rydym yn gobeithio bod yr hyfforddiant wedi bod yn ddefnyddiol ac edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau hyfforddi i’n partneriaid yn y dyfodol.”

Yn 2019, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Gynhadledd Tanau Gwyllt y Byd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, a ddenodd gynrychiolwyr o bob cwr o’r byd i drafod tanau gwyllt ar raddfa fyd-eang. Gwyliwch am ragor o fanylion am waith ein Tîm Tanau Gwyllt ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.