Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2022

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o gefnogi digwyddiad diogelwch ar y ffyrdd blynyddol mwyaf y DU, Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (14eg – 20fed Tachwedd 2022). 

Brake, sef yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, sy wedi trefnu’r digwyddiad a thema wythnos diogelwch ar y ffyrdd eleni yw gofyn am ‘ffyrdd diogel i bawb’. Bob blwyddyn, mae miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau yn cymryd rhan i rannu negeseuon diogelwch ffyrdd pwysig.

Mae’r ymgyrch yn annog: 

  • MEDDWL am sut y gallwn ni i gyd ddefnyddio ffyrdd yn ddiogel i ddiogelu ein hunain a defnyddwyr ffyrdd eraill
  • DEALL sut y gall ffyrdd diogel alluogi pawb i wneud teithiau diogel ac iach
  • COFIO am ddioddefwyr gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a rhannu eu straeon

Pam fod Wythnos Diogelwch Ffyrdd mor bwysig? 

Bob 22 munud, mae rhywun yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n cael ei ladd ar ffordd yn y DU.

Dyna pam ei bod hi’n hanfodol i ddefnyddwyr ffyrdd gadw’n gyfredol â’r wybodaeth ddiweddarach am yr hyn a ystyrir i fod yn yrru diogel neu yrru peryglus.

Mae Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn fodd i atgoffa gyrwyr i fod yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar y ffordd, gwirio eu car i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w yrru, ac effeithiau gyrru heb fod yn gwbl effro.

Dywedodd Nev Thomas, Rheolwr Lleihau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd GTADC a Rheolwr Gorsaf: 

“Rhwng y 1af o Dachwedd 2021 a’r 31ain o Hydref 2022, mynychodd GTADC dros 700 o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd.

Mae ein sefydliad yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ar draws De Cymru a thrwy gydol yr wythnos byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ledaenu a hyrwyddo’r neges am ffyrdd diogel i bawb.

I nodi Wythnos Diogelwch ar y Ffordd, bydd Tîm Diogelwch Ffyrdd GTADC yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu, addysgu ac ymyryd, gan helpu i gadw Ffyrdd Cymru yn fwy diogel.

Trwy ddefnyddio ein hadnoddau, ein nod yw achub bywydau, atal damweiniau ac anafiadau a lleihau nifer y digwyddiadau o fewn yr ardaloedd rydym yn eu hamddiffyn.”

Wyddoch chi bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru yn 2023? 

Fel rhan o’r cam cyntaf i gyflwyno’r terfyn cyflymder rhagosodedig 20mya, mae GTADC, ynghyd â’i bartneriaid yn Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, wedi cynnal digwyddiadau ymyrraeth ar gyfer lleihau cyflymder llwyddiannus yn Saint-y-brid a’r Fenni.

Cafodd gyrwyr a stopiwyd am oryrru gyfle i fynychu cyflwyniad diogelwch gan Dîm Diogelwch Ffyrdd GTADC, o’r enw ‘Addysg Gwasanaeth Tân’.

Dilynwch ni ar Twitter | Facebook | Instagram am y cyngor a’r arweiniad diweddaraf ar ddiogelwch ar y ffyrdd, ac i weld beth mae’r tîm yn ei wneud yn ystod yr wythnos!

Adnoddau Defnyddiol