Mae Diffoddwyr Tân yn Mynd i’r Afael â Bron i 70 o Danau Bwriadol mewn Un Penwythnos yn Ne Cymru

Gwelwyd cynnydd mewn tanau gwyllt gan griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dros y penwythnos hwn wrth iddynt fynychu bron i 70 o danau glaswellt bwriadol rhwng Dydd Gwener a Dydd Sul.

Roedd y tanau mawr yn cynnwys Garn Wen ym Maesteg, Fox Hill yn Rhiwderyn, ardal Trealaw yn Nhonypandy a Penrhys yng Nglynrhedynog. Roedd angen presenoldeb nifer o beiriannau tân, defnyddio offer critigol a symud adnoddau ar gyfer y rhan fwyaf o’r tanau hyn. Mae hyn fel arfer yn cynnwys sawl injan dân, cerbydau tanau gwyllt arbenigol a hofrennydd yn safle’r digwyddiad yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdod lleol.

Mae tanau bwriadol yn annerbyniol ar unrhyw adeg, ond yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol mae adnoddau gwasanaeth brys yn hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd. Mae tanau gwyllt yn beryglus dros ben a gallant ymledu’n gyflym iawn gan beryglu bywydau, achosi difrod sylweddol i eiddo a’r amgylchedd, gan gynnwys achosi niwed i fywyd gwyllt.

Mae’r tanau hefyd yn gollwng cymylau mwg trwchus, sy’n gallu cynyddu’r risg i’r henoed a phobl agored i niwed â chyflyrau meddygol. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg a achosir gan danau glaswellt i ddioddefwyr COVID-19 a allai fod yn byw gerllaw.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws Cymru fel rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, sef tasglu a sefydlwyd i leihau nifer y tanau bwriadol. Er ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau ymateb brys effeithiol ac effeithlon ledled De Cymru, mae’r tanau hyn yn draul ar adnoddau gwasanaethau argyfwng ac maent yn achosi risg ddiangen i fywydau.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am amheuaeth o danau bwriadol, neu unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch chi dân, neu unrhyw un sy’n dechrau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.