Gosod Tanau Glaswellt Yn Fwriadol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar hyn o bryd yn mynychu nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â thanau glaswellt ar draws De Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys tanau gwair sy’n parhau i losgi yn ardal Twmbarlwm ac mae llawer ohonynt yn cael eu trin yn danau bwriadol.

 

Gyda chefnogaeth ein partneriaid yn yr Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru rydym wedi bod yn defnyddio hofrenyddion a dronau yn yr ardal hon, ac mewn safleoedd eraill ledled De Cymru. Gyda’r hofrenyddion yn darparu cymorth gweithredol, mae defnydd parhaus o ddronau a chynnal patrolau mynych mewn ardaloedd mewn perygl yn gymorth i ni i fonitro gweithgarwch amheus, adnabod gweithredoedd troseddol a chasglu gwybodaeth i gefnogi erlyniadau yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Arolygydd Stephen Drayton, o Heddlu Gwent: “Mae’r tanau hyn wedi bod yn llosgi ers nifer o wythnosau bellach, ac maent yn cael effaith difrifol ar ein hamgylchedd lleol a’n bywyd gwyllt.

 

“Mae cynnau tân glaswellt yn fwriadol yn drosedd ddifrifol, ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngwent. Rydym yn ceisio cymorth y cyhoedd er mwyn i ni allu adnabod troseddwyr, er mwyn eu dwyn i gyfiawnder a’u hatal rhag cyflawni troseddau tebyg eto yn yr ardal.

 

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu os gwelwch ymddygiad amheus yn yr ardal, cysylltwch â ni ar 101, os oes gennych wybodaeth am ddigwyddiad Twmbarlwm nodwch y cyfeirnod 320 o 14/07/18 ond cofiwch gyflwyno unrhyw wybodaeth ynghylch unrhyw danau gwair y gallech fod wedi’u gweld cael ei gychwyn. Neu, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. ”

 

O ganlyniad i’r gam-drin geiriol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar ymateb y gwasanaethau brys a’u partneriaid i danau gwair yng nghyffiniau Twmbarlwm, ger Rhisga, mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi gorchymyn gwasgaru 48 awr ar gyfer yr ardal.

 

Daeth y Gorchymyn i rym am 5yp ar Ddydd Iau, y 26ain o Orffennaf 2018, a bydd yn weithredol tan 5 o’r gloch Dydd Sadwrn, yr 28ain o Orffennaf 2018.

 

Bydd swyddogion yn gweithredu patrolau amlwg iawn yn yr ardal a bydd ganddynt yr awdurdod i gyfarwyddo unrhyw un sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol neu sy’n cael ei amau i fod yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol o’r ardal. Os byddant yn dychwelyd i’r ardal honno ar ôl cael eu symud ymlaen, maent yn debygol o gael eu harestio.

 

Dywedodd Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Prendergast “Rwy’n falch iawn o ba mor galed mae ein criwiau wedi gweithio dros yr wythnosau diwethaf i ddelio â’r amrywiaeth o ddigwyddiadau heriol a gawsom. Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth a gawsom gan asiantaethau partner a’n cymunedau. Er bod yr nifer uchel o danau ar hyn o bryd yn heriol i ni, rydym yn dal i allu darparu lefel uchel o wasanaeth arferol i’r cyhoedd yn Ne Cymru. ”

 

Mae’r tanau glaswellt yn cael effaith dinistriol ar yr amgylchedd gan ladd anifeiliaid a dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt fel yr ydym eisoes wedi’i weld mewn sawl ardal ar draws De Cymru.

 

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau de ddwyrain Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru,:

 

“Mae tanau gwyllt yn peri risg ddifrifol i’n swyddogion, i’r ymladdwyr tân sy’n gorfod mynd i’r afael â nhw, i fywyd gwyllt lleol ac i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

 

“Mae effeithiau’r tân yng Nghwmcarn yn ddifrodus, gan ddinistrio mwy na 200 hectar o goetir, gan gynnwys degau o filoedd o goed sydd newydd eu plannu.

 

“Bydd unrhyw fywyd gwyllt yn llwybr y tân yn debygol o gael eu lladd gan ddinistrio eu cynefinoedd a’u ffynonellau bwyd ill dau. Gallai gymryd blynyddoedd i boblogaethau rhai o’r rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid adfer.

 

“Yn ogystal â hyn, gan fod llwybrau beicio mynydd a choedwigoedd yn gorfod cau, mae’n parhau i adael effaith economaidd niweidiol ar fusnesau a thwristiaeth yr ardal, tra bod y cymunedau cyfagos yn gorfod dioddef effeithiau gweledol y tân ar y dirwedd.”

 

Maent hefyd yn creu straen ychwanegol ar adnoddau megis cyflenwadau dŵr. Yn ystod y tywydd poeth presennol lle mae dŵr yn brin, mae’r digwyddiadau parhaus yn lleihau adnoddau gwerthfawr ar gyfer y cyhoedd.

 

Dywedodd Rheolwr gweithredol Dŵr Cymru, Peter Perry,: “Yn ogystal â’r baich sylweddol ar adnoddau’r gwasanaethau brys, mae mynd i’r afael â’r tanau hyn yn dargyfeirio cyflenwadau dwr yfed gwerthfawr ar adeg lle mae’r tywydd â thymheredd sydd ymysg y poethaf a gofnodwyd erioed

 

“Er ein bod yn gweithio nerth ein gallu i gynnal cyflenwadau arferol yn ystod y cyfnodau sych, gan bwmpio mwy na biliwn litr y dydd i’n rhwydwaith, gyda 450 o bobl yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i ddarganfod a thrwsio gollyngiadau yn ein rhwydwaith, mae angen pawb i helpu ni yn yr ymdrech hon.

 

“Mae tanau bwriadol yn tanseilio’r ymdrechion gwych cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn effeithlon, felly byddem yn annog unrhyw un sydd ag amheuon fod tanau bwriadol o bosib ar y gweill i gysylltu â 101 gydag unrhyw wybodaeth.

 

Rydym yn parhau i gydweithio â’n holl asiantaethau partner a byddwn yn parhau i ymchwilio i bob digwyddiad tân, gan fod yn gefnogol hyd ein gallu ac erlyn unrhyw un sy’n cael ei ddal wrth gychwyn tanau gwyllt.

 

Unwaith eto, byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau glaswellt, neu sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Os gwelwch chi dân glaswellt, neu unrhyw un sy’n dechrau tân glaswellt, ffoniwch 999 ar unwaith.