Galwadau tân ffug yn amddifadu busnesau Cymru o arian

Gallai aflonyddwch, oedi a cholli apwyntiadau yn y gweithle a achosir gan alwadau tân ffug gostio  miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i fusnesau yng Nghymru.

Dyna’r rhybudd a gafwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n gyfrifol am adrodd bod bron i hanner o’r holl alwadau (47%) yn ystod 2016-2017), gyda llawer ohonynt yn alwadau i eiddo busnes, yn alwadau ffug.

Mae’r ffigurau syfrdanol wedi ysgogi’r Gwasanaeth i lansio eu hymgyrch ‘Ydy galwadau tân ffug yn costio arian i chi?’ gan gynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau sy’n cydnabod y broblem, ac am fod yn ‘yn rhydd o alwadau ffug.’

Wrth dynnu sylw at faich ariannol galwadau ffug, sy’n digwydd yn aml o ganlyniad i waith cynnal a chadw gwael, arferion coginio anniogel neu brofion heb ei drefnu, bydd yr ymgyrch hefyd yn ein hatgoffa y gall galwadau ffug ddod â chostau sydd hyd yn oed yn fwy difrifol i aelodau’r cyhoedd oherwydd y dreth ar adnoddau’r Gwasanaeth Tân.

Dywedodd Ed Robson, Rheolwr Gorsaf Adran Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn galw ar fusnesau i weithio gyda ni ac addo eu cefnogaeth i addysgu staff ynghylch sut y gall eu gweithle ddod ‘yn rhydd o alwadaau ffug’.

“Mae camsyniad cyffredin bod galwadau ffug yn ‘anochel,’ heb unrhyw ganlyniadau gwirioneddol na chostau ond heb os nac oni bai nid felly y mae.

“Mae pob galwad ffug yn gost sylweddol i’r Gwasanaeth Tân ac Achub gan ddefnyddio adnoddau y gallai fod eu hangen mewn argyfwng gwirioneddol yn rhywle arall.  Yr hyn nad yw perchnogion busnes yn sylweddoli yw bod pob galwad ffug hefyd yn costio arian iddynt. Mae’r amser a wastreffir oherwydd darfu ac oedi yn dreth gyson ar elw a morâl y staff, ac yn esgor ar systemau larwm llai effeithiol gan fod preswylwyr yn talu llai o sylw iddynt. Y newyddion da yw nad oes rhaid iddi fod fel hyn.  Mae camau syml ar gael i atal y rhan fwyaf o alwadau ffug, megis cynnal a chadw’r system, adleoli tostwyr a thegellau oddi wrth synwyryddion mwg, gosod gorchuddion ar bwyntiau torri’r gwydr a gamddefnyddir yn aml. “Rydym yn hapus i roi cyngor am sut i atal galwadau ffug – byddai lleihau’r broblem hon er budd pawb.”

I gyd-fynd â’r Wythnos Busnes Cyfrifol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwahodd cyflogwyr i ychwanegu eu henwau at restr gynyddol o fusnesau, cwmnïau a sefydliadau cefnogol.

Cyhoeddir y rhestr hon yn ddiweddarach yn y flwyddyn ynghyd â straeon llwyddiant ac astudiaethau achos yr ymgyrch.

Mae mwy o fanylion, gan gynnwys adnoddau am ddim, ar gael gan y Tîm Diogelwch Tân Busnes ar 01443 232716.