Diwrnod Teithio Llesol Cymru 2022

Bydd dydd Iau 29 Medi yn nodi diwrnod Teithio Llesol Cymru, cyfle i fusnesau a sefydliadau arddangos sut maen nhw’n helpu pobl i wneud teithiau cynaliadwy.

Ledled Cymru, mae 60 o brif sefydliadau wedi cytuno i un o’r Siarteri Teithio Llesol. Mae Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru (GTADC) wedi arwyddo tri Siarter Teithio Llesol ledled De Cymru; Siarter Teithio Llesol CaerdyddSiarter Teithio Llesol Bro MorgannwgSiarter Teithio Llesol Gwent.

Mae bod yn llofnodwyr y siarter yn golygu fod y Gwasanaeth wedi ymrwymo i gyfres o gamau i helpu staff ac ymwelwyr â’u safleoedd gerdded, feicio ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mwy er mwyn helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol, lleihau llygredd aer a thorri allyriadau carbon.

Mae GTADC wedi cyflwyno nifer o gerbydau trydan a gorsafoedd gwefru cerbydau ar draws y Gwasanaeth ac yn cynnal cynllun amnewid parhaus s’yn arwain at symud i fflyd o gerbydau cwbl drydanol.

Yn ogystal a hyn, rydym yn edrych i dreialu cyfleusterau gwefru trydan mewn nifer o’n Gorsafoedd i annog ein staff a’n criwiau i symud i gerbydau trydan.

Rydym yn gweithio’n barhaus i gyflawni’r amcanion a’r camau a nodwyd yn ein Cynllun Lleihau Carbon.

Rhannwch sut rydych chi’n teithio i’r gwaith trwy gerdded, mynd ar sgwter, ar feic, ar fws neu ar  drên trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodTeithioLlesolCymru a gweld yr hyn y mae unigolion eraill yn ei wneud hefyd!

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Siarteri Teithio Llesol yn teithiollesol.cymru/siarteri