Diwrnod Teithio Llesol Cymru 2021

Heddiw (Dydd Iau 23 Medi 2021) yn nodi diwrnod cyntaf Teithio Llesol Cymru. Mae’r diwrnod yn gyfle i fusnesau a sefydliadau i arddangos sut maen nhw’n helpu pobl i wneud teithiau cynaliadwy.

Ledled Cymru, mae 50 o brif sefydliadau wedi cytuno i un o’r Siarteri Teithio Llesol. Mae Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru wedi arwyddo tri Siarter Teithio Llesol ledled De Cymru; Siarter Teithio Llesol Caerdydd,  Siarter Teithio Llesol Bro Morgannwg a Siarter Teithio Llesol Gwent.

Mae bod yn llofnodwyr y siarter yn golygu fod y Gwasanaeth wedi ymrwymo i gyfres o gamau i helpu staff ac ymwelwyr â’u safleoedd gerdded, feicio ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mwy er mwyn helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol, lleihau llygredd aer a thorri allyriadau carbon.

Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o gerbydau trydan a gorsafoedd gwefru cerbydau yn ein Pencadlys yn Llantrisant. Rydym hefyd yn cynnal cynllun amnewid parhaus a fydd, ymhen amser, yn arwain at symud i fflyd o gerbydau cwbl drydanol. Yn ogystal a hyn, rydym yn edrych i dreialu cyfleusterau gwefru trydan mewn nifer o’n Gorsafoedd i annog ein staff a’n criwiau i symud i gerbydau trydan.

Rydym yn gweithio’n barhaus i gyflawni’r amcanion a’r camau a nodwyd yn ein Cynllun Lleihau Carbon.

Rhannwch sut rydych chi’n teithio i’r gwaith trwy gerdded, mynd ar sgwter, ar feic, ar fws neu ar  drên trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodTeithioLlesolCymru a gweld yr hyn y mae unigolion eraill yn ei wneud hefyd!

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Siarteri Teithio Llesol yn teithiollesol.cymru/siarteri