Diwrnod 999 Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru!

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) llenwi Plas Roald Dahl Bae Caerdydd ddydd Sadwrn yr 22ain o Hydref ar gyfer Digwyddiad Achub 999 MAWR, fydd yn llawn arddangosiadau achub cyffrous, cystadlaethau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

I ddathlu popeth am y gwasanaethau brys, bydd llawer o bartneriaid o bob rhan o Dde Cymru yn ymuno â GTADC, gan gynnwys Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Gwylwyr y Glannau, MedServe, Y Fyddin Diriogaethol, Y Tîm Ymateb Ardal Beryglus (HART), Gwasanaeth Gwaed Cymru a llawer mwy!

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10yb a 4yh ym Mhlas Roald Dahl a’r ardaloedd cyfagos.

Mae mynediad i’r digwyddiad AM DDIM a gallwch roi gwybod i ni os byddwch chi’n dod a gweld unrhyw ddiweddariadau ar ein Tudalen Digwyddiadau.

Dywedodd Roger Magan, Rheolwr Gorsaf Canol Caerdydd:

Rydym yn falch dros ben unwaith eto i allu cynnal ein digwyddiad Diwrnod Gwasanaethau Brys 999 gyda’n partneriaid ym Mae Caerdydd.

Bydd yr holl wasanaethau brys a’n partneriaid yn rhannu gwybodaeth achub bywyd yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys diogelwch yn y cartref, diogelwch dŵr a diogelwch ar y ffyrdd. Ymgysylltwch â ni a’n partneriaid a manteisiwch ar y cyfle hwn i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi neu ddarganfod mwy am sefydliad.

Rydym yn disgwyl y bydd hi’n ddiwrnod prysur, gyda nifer fawr o ymwelwyr a llawer o arddangosiadau a gweithgareddau, felly hoffem gynghori’r cyhoedd i ddilyn cyngor ac arweiniad diogelwch yn ystod y digwyddiad, er mwyn i bawb fwynhau’r diwrnod yn ddiogel.”

Pa arddangosiadau fydd yn y digwyddiad?

Bydd llu o arddangosiadau ac ymarferion yn cael ar gael i’r cyhoedd eu gwylio. Dyma’r rhestr lawn:

  • 10yb – 4yh: Arddangosfeydd Achub Gyda Rhaff
  • 11yb – 12yh: Datglymu o Gerbydau a Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffordd
  • 12yb – 1yh: Arddangosfeydd gan Cadetiaid Tân
  • 1yb – 2yh: Datglymu o Gerbydau a Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffordd
  • 2yb – 3yh: Achub o’r Dŵr a Chystadleuaeth Taflu Rhaff (ar lan y dŵr)

Bydd hefyd gyda ni sesiwn dangos a dweud Chwilio ac Achub Trefol (ChAT), ac arddangosfeydd gan  GTADC a’n partneriaethau drwy’r dydd!

Pa gyngor fydd ar gael yn ystod y digwyddiad?

Yn ystod y digwyddiad, bydd Pabell Diogelwch Cymunedol pwrpasol gyda ni, lle bydd arbenigwyr yn gallu rhannu gwybodaeth a chyngor arbenigol am ddiogelwch yn y cartref, diogelwch ffyrdd, gwasanaethau addysg, recriwtio a llawer mwy!

Oes diddordeb gyda chi mewn bod yn ddiffoddwr tân, neu ydych chi eisiau darganfod mwy am swydd gyda GTADC?

Dewch i siarad â’n harbenigwyr recriwtio a fydd ar gael yn y Babell Diogelwch Cymunedol i gynnig cyngor ac arweiniad. Byddwch hefyd yn gallu rhoi cynnig ar wisgo cit tân a chymryd rhai o’n profion ffitrwydd Ymladdwyr Tân.

Ydy’r digwyddiad hwn yn addas i deuluoedd?

Mae’r digwyddiad yn gyfeillgar i deuluoedd, ac mae croeso i bawb!

Mae’r Babell Diogelwch Cymunedol yn cynnwys ardal ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Phobl Ifanc. Yno, byddwch chi’n gallu clywed am y rhaglenni a’r gwasanaethau sy gyda ni i blant a phobl ifanc yn ogystal â chael gwybodaeth am ddiogelwch.

Byddwn ni hefyd yn cynnal dwy gystadleuaeth greadigol yn ystod y dydd:

  • Bydd ymwelwyr iau 10 oed ac yn iau yn gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth tynnu llun yn ein Stondin Addysg yn yr Ardal Diogelwch Cymunedol
  • Bydd y rhai 10 oed ac yn hŷn yn gallu rhannu’r llun gorau sy gyda nhw o’r digwyddiad ar Twitter | Facebook | Instagram, gan dagio GTADC a defnyddio #999BaeCaerdydd

Os ydych chi o dan 13 oed, gofynnwch i riant neu warcheidwad gyflwyno ar eich rhan.

Neu gellir anfon ceisiadau drwy law e-bost i: media@southwales-fire.gov.uk 

Mae nifer o wobrau gyda ni i’w rhannu, felly cofiwch alw heibio i’r Babell Diogelwch Cymunedol i gael rhagor o wybodaeth!

Cyn y digwyddiad…

Os ydych chi’n bwriadu mynychu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n…

  • Cynllunio eich taith ymlaen llaw
  • Gwirio rhagolygon y tywydd cyn i chi deithio
  • Edrych ar ein rhaglen i fod yn siwr o weld yr arddangosfa rydych chi am ei weld!
  • Dilyn ni ar Twitter | Facebook | Instagram i gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf