Diffoddwyr yn diffodd tân bwriadol tybiedig mewn maes chwarae yng Nghaerdydd

Yn ystod oriau mân fore Llun (y 13eg o Fedi 2021) cawsom adroddiadau am dân mewn maes chwarae i blant yn Trowbridge, Caerdydd.

Danfonwyd criw o Orsaf y Rhath i’r lleoliad i dân a oedd wedi ymledu ar draws y parc, gan achosi difrod sylweddol i’r offer chwarae a chelfi difrod sylweddol. Mae’n bosib iawn bod y tân wedi cael ei osod yn fwriadol ac mae’n debyg bod y tân wedi cael ei gyflymu i greu difrod sylweddol.

Mae tanau bwriadol yn beryglus dros ben. Gallant ledaenu a mynd allan o reolaeth yn hawdd ac yn gyflym, gan beryglu bywydau, achosi niwed sylweddol i eiddo a’r amgylchedd a niwed i fywyd gwyllt. Yn yr achos hwn, achosodd y tân werth miloedd o bunnoedd o ddifrod i’r gymuned.

Mae’r tanau hefyd yn cynhyrchu mwg trwchus a all gynyddu’r risg i’r henoed a phobl â chyflyrau meddygol sy’n agored i niwed. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg o danau o’r fath i ddioddefwyr COVID-19 a allai fod yn byw gerllaw.

Mae ein tîm Troseddau Tân yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Heddlu De Cymru ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r fath ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn helpu i leihau risg a chadw cymunedau’n ddiogel.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau bwriadol tybiedig, neu unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â Heddlu De Cymru trwy ebost:SWP101@south-wales.police.uk neu ewch i:https://bit.ly/SWPReportOnline. Gallwch hefyd danfon neges breifat ar Facebook neu Twitter neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch dân, neu rywun yn dechrau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.