Diffoddwyr tân yn parhau i fynd i’r afael â thân glaswellt sy’n ymestyn dros 50 hectar ar Fynydd Machen, Caerffili

Diffoddwyr tân yn parhau i fynd i’r afael â thân glaswellt sy’n ymestyn dros 50 hectar ar Fynydd Machen, Caerffili

Mae diffoddwyr tân yn dal i fod ar Fynydd Machen ger Caerffilli y bore yma yn dilyn cyfres o danau bwriadol tybiedig. Derbyniwyd adroddiadau lluosol am danau ar y mynydd dros y penwythnos gyda chriwiau’n defnyddio offer arbenigol ar dirwedd heriol i fynd i’r afael â’r fflamau sydd erbyn hyn yn ymestyn dros 50 hectar o laswelltir.

Mae cerbydau Gwasanaeth Tân lluosol wedi bod yno gan gynnwys hofrennydd diffodd tân, peiriannau tân, cerbydau all deithio oddi ar y ffordd ac Unedau Tanau Gwyllt y Gwasanaeth. Y bore ‘ma darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru beiriannau trwm i greu atalfeydd tân i atal y tân rhag ymledu i lawr llethrau’r mynydd. Mae ein hystafell reoli 999 wedi derbyn tua 424 o alwadau mewn perthynas â Mynydd Machen ers dydd Iau. Rydym yn deall bod y tanau’n achosi llawer iawn o fwg yn yr ardaloedd cyfagos ac mae preswylwyr wedi cael cyngor i gau ffenestri a drysau fel rhagofal diogelwch.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae ein criwiau wedi mynychu dros 160 o danau bwriadol tybiedig ar draws De Cymru. Mae ein Huned Troseddau Tân wedi bod yn gweithio’n ddiflino mewn partneriaeth ag Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol sy’n cynnwys arbenigwyr o asiantaethau allweddol ar draws Cymru sy’n ceisio lleihau, a lle y bo’n bosibl, ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi gofyn am bresenoldeb peiriannau lluosol, defnyddio offer critigol a symud adnoddau.  Fel Gwasanaeth, mae gennym gynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i ymateb i ddigwyddiadau o’r math hwn ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddiogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu orau.

Rydym yn falch dros ben o waith caled ac ymrwymiad ein staff sy’n adlewyrchu ein nod o ran cadw De Cymru’n ddiogel. Yn eu plith mae’r sawl sy’n darparu gwasanaeth 24/7 yn ein hystafell reoli 999 a’r rhai sy’n gweithio uwchben ac ochr yn ochr â’r diffoddwyr tân sy’n peryglu eu bywydau yn y fan a’r lle. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid gan gynnwys yr heddlu, yr awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a oedd, drwy ein cydweithrediad, yn cynorthwyo gyda hofrennydd a oedd yn rhan hanfodol o’n hymateb effeithiol.

Hoffem ddiolch yn arbennig hefyd i’r preswylwyr lleol oedd yn ein cefnogi o’r cychwyn cyntaf, gan hyd yn oed gynnig byrbrydau a dŵr i’n diffoddwyr tân oedd yn mynd i’r afael â’r tân.

Mae tanau gwyllt yn effeithio ar ein cymunedau ledled Cymru gan dynnu adnoddau hanfodol a gwerthfawr o’n cymunedau, yn ogystal â pheryglu bywydau’n ddiangen. Mae effeithiau tanau glaswellt yn cynnwys dinistrio’r amgylchedd, lladd anifeiliaid a dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt fel y gwelir eisoes mewn sawl ardal ar draws De Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau i leihau risg o gael tanau glaswellt a’r effaith a ddaw yn eu sgil. Rydym eisiau eich atgoffa chi, y cyhoedd, i beidio â defnyddio unrhyw danau gyda fflam agored mewn ardaloedd tebyg er mwyn lleihau’r risg o danau’n cael eu cynnau a lledaenu o ganlyniad i’r y tywydd sy’n mynd yn fwy cynnes a sych o hyd.

Unwaith eto, erfyniwn ar unrhyw un â gwybodaeth am danau glaswellt, neu unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.  Os gwelwch chi dân glaswellt, neu unrhyw un yn dechrau tân glaswellt, ffoniwch 999 ar unwaith.