Diffoddwyr Tân Cymraeg yn cynorthwyo ymgyrch chwilio ac achub yn Nhwrci

Mae pum diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wedi teithio i Dwrci i gynorthwyo’r ymgyrch chwilio ac achub yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol.

Cyrhaeddodd tîm o 77 arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU, yn cynnwys diffoddwyr tân a staff o 14 o Wasanaethau Tân ac Achub, yn Dwrci ar ddydd Mawrth 7 Chwefror 2023. Byddant yn darparu sgiliau ac offer arbenigol i helpu i leoli ac achub goroeswyr. Maent wedi cael eu defnyddio drwy’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

Mae Rheolwr Criw Emma Atcherley o Orsaf Ganolog Caerdydd, Diffoddwr Tân Luke Davison o Orsaf Malpas a Diffoddwr Tân Robert Buckley o Orsaf Trelái wedi teithio o Dde Cymru. Mae Pennaeth Ymateb Rhanbarth y De, Steve Davies a Rheolwr Gwylfa Phil Irvin o Orsaf Hwlffordd, Rhanbarth y Gorllewin yn cefnogi’r ymgyrch o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae gan y tîm offer chwilio arbenigol gan gynnwys dyfeisiau gwrando seismig, offer torri a choncrit ac offer cynnal a chadw.

Dywedodd Darren Cleaves, Pennaeth Gorsaf ac Arweinydd ‘UKISAR’ ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae UKISAR yn cynnwys 14 tîm o Wasanaethau Tân ac Achub ledled y DU ac maen nhw’n ymateb i drychinebau rhyngwladol 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Fel rhan o dîm y DU, mae tri diffoddwr tân o Dde Cymru wedi teithio i Dwrci ac eisoes wedi dechrau gweithrediadau. Byddant yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad arbenigol i gefnogi ymdrechion chwilio ac achub ar lawr gwlad.

Rydym yn falch o ddarparu ymateb i argyfyngau a thrychinebau ledled y byd wrth ochr ein cydweithwyr yn y DU ac rydym yn meddwl am y rhai y mae’r drasiedi hon yn effeithio arnynt.”

Dywedodd Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Ry’n ni’n danfon ein cofion at y miloedd lawer ar draws Türkiye a Syria sydd wedi colli anwyliaid mewn modd mor drasig yn dilyn y daeargrynfeydd hyn, ac i’r ymatebwyr brys sy’n gweithio i adnabod ac achub y sawl sydd wedi goroesi. Ry’n ni’n gwybod fod yr ymdrechion hyn i achub yn cymryd lle mewn amodau gaeafol hynod heriol, yn cymhlethu beth sydd eisoes yn weithred ar y cyd anodd iawn.

Bellach, mae dau o’n haelodau criw gweithredol wedi hedfan allan i Türkiye i ymuno â’r tîm o arbenigwyr chwilio ac achub o’r DG. Does gen i ddim amheuaeth bydd Rheolwr Grŵp Steve Davies (Rhanbarth Deheuol) a Phil Irving, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Hwlffordd, sy’n hynod fedrus mewn sgiliau Gorchymyn a Rheoli ac sydd â phrofiad o reoli o dan yr amgylchidau cymhleth hyn, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r ymdrechion chwilio ac achub hyn.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly:

“Mae’r DU yn anfon cit achub bywyd i Dwrci a Syria. Bydd hyn yn cynnwys arbenigedd meddygol hanfodol a chitiau hylendid a hefyd pebyll a blancedi i helpu pobl i gadw’n gynnes ac yn gysgodol yn yr amodau rhewllyd ofnadwy y maent yn gorfod eu dioddef ar ben dinistr y daeargrynfeydd.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod cymorth achub bywyd yn cael ei roi i’r rhai sydd â’r angen mwyaf, wedi’i gydlynu â llywodraeth Twrci, y Cenhedloedd Unedig a phartneriaid rhyngwladol.”

Ymatebodd llywodraeth y DU ar unwaith i gais Llywodraeth Twrci am gymorth a bydd yn parhau i asesu’r sefyllfa, gan baratoi i ddarparu cymorth hirdymor pellach yn ôl yr angen.

Bydd mwy o fanylion a diweddariadau am yr ymgyrch yn dilyn yr wythnos hon.