DATGANIAD: Cynnig cyflog gwell i Undeb y Brigadau Tân

Yn dilyn trafodaethau cynhyrchiol â’r Cyflogwyr Cenedlaethol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi’n calonogi bydd Undeb y Brigadau Tân (FBU) yn cynnal pleidlais gyda’u haelodau ar gynnig diwygiedig gan y Cyflogwyr Cenedlaethol.

Mae’r cynnig gwell gwerth 7% wedi’i hôl-ddyddio i Orffennaf 2022 ac yna 5% o Orffennaf eleni.

Hefyd, mae’r FBU wedi gohirio unrhyw streiciau cenedlaethol gan Ddiffoddwyr Tân, sydd wedi’i chroesawu gan y Gwasanaeth.

Mae canlyniad y bleidlais nawr yn nwylo aelodaeth yr FBU ledled y DU, ac rydym yn obeithiol y gellir cytuno ar ddatrysiad i’r anghydfod cyflogau.