DATGANIAD: Canlyniad pleidlais Undeb y Brigadau Tân

Yn dilyn pleidlais gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) ynghylch anghydfod cyflog cenedlaethol, hysbyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) fod aelodau’r FBU, sy’n Ddiffoddwyr Tân a staff Ystafell Reoli, wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol. Nid yw’r FBU wedi cyhoeddi unrhyw ddyddiadau o weithredu diwydiannol hyd yma, ond maen nhw wedi caniatáu 10 diwrnod (hyd at y 9fed o Chwefror) am drafodaethau pellach â’r Cyflogwyr Cenedlaethol.

Mae’r Gwasanaeth yn annog y Cyflogwyr Cenedlaethol a’r FBU i chwilio am ddatrysiad i’r anghydfod hwn er mwyn osgoi’r angen am weithredu’n ddiwydiannol. Fodd bynnag, os bydd streiciau cenedlaethol, byddwn, er gwaetha’r adnoddau cyfyngedig, yn parhau i leihau’r risg i’n cymunedau ar hyd y cyfnod o weithredu’n ddiwydiannol. Bydd Diffoddwyr Tân Cynorthwyol a chymorth gan bersonél milwrol yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau ar draws De Cymru a bydd y Gwasanaeth yn blaenoriaethu ymateb i ddigwyddiadau lle bydd risg i fywyd. Bydd staff Rheoli Cynorthwyol yn cael eu galw i ateb galwadau ffôn brys yn ein Canolfan Cyd-reoli Tân ynghyd â danfon adnoddau gweithredol. Bydd gwe-dudalen yn cael ei sefydlu cyn bydd unrhyw streic, gyda chyngor i’n cymunedau ar gyfer cymryd gofal ychwanegol cyn ac yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol. Gall y cyhoedd ein helpu ni mewn achos streic wrth ddilyn ein cyngor diogelwch ac wrth alw 999 mewn argyfwng risg i fywyd yn unig.