Creu Gwent fwy Diogel gyda’n Gilydd

Dros y Flwyddyn Newydd, cafodd swm mawr o sbwriel ei adael wrth ganolfan siopa yn agos at Ringland, Casnewydd.

Cafodd criwiau o’n Gorsaf Tân ac Achub Maindee eu galw allan ddeg gwaith mewn bum diwrnod i ddiffodd nifer o danau sbwriel o fewn yr ardal.

Mae’n bebyg bod y tanau wedi eu gosod yn fwriadol o fewn nifer o finiau metel yn llawn gwastraff cyffredinol a sbwriel.

Roedd y digwyddiadau’n achosi risg i’r gymuned leol gan fod y tanau’n agos at ardaloedd adeiledig. Cydweithiodd ein Huned Troseddau Tân arbenigol yn agos â’n partneriaid Cartrefi Dinas Casnewydd a’r Awdurdod Lleol i gael gwared ar y gwastraff a chynnig cyngor a sicrwydd i drigolion lleol.

Mae’r safle erbyn hyn wedi cael ei glirio ac mae’r biniau yng ngofal yr heddlu mesur ataliol.

Dywedodd Pennaeth yr Uned Troseddau Tân, Rheolwr Grŵp, Neil Davies o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ‘Mae hyn yn enghraifft arall o’r cydberthynas gweithio ar y cyd gwych sydd gennym ar draws Gwent i gadw ein cymunedau lleol yn ddiogel. Hoffwn atgoffa’r preswylwyr bod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n iawn. Rydym yn argymell y dylid defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser yn ogystal â gwirio’r caniatâd, trwydded neu dystysgrif eithrio.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas Roger Jeavons: “Mae hyn yn achosi pryder mawr ac rydym yn cefnogi ein partneriaid yn galonnog mewn unrhyw gamau y mae angen eu cymryd er mwyn dal y drwgweithredwyr.

“Mae gan drigolion gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod unrhyw sbwriel yn cael ei waredu’n gywir ac mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sy’n dyst i dipio anghyfreithlon i hysbysu’r Cyngor gyda manylion y troseddwr.

“Hoffem weld rhagor o welliannau o ran lleihau nifer yr achosion tipio anghyfreithlon masnachol yn y ddinas a hoffem atgoffa preswylwyr bod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol (dyletswydd gofal) i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n briodol.

“Mae hyn yn golygu gofyn am gael gweld tystysgrif cludwr gwastraff a chadw cofnod rhag ofn iddynt dipio’ch gwastraff yn anghyfreithlon a’i olrhain yn ôl i chi.” Gall preswylwyr roi gwybod am dipio anghyfreithlon drwy wefan y Cyngor http://www.newport.gov.uk/en/Waste-Recycling/Fly-Tipping-and-Litter.aspx.”

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr o Eiddo a Lleoliad yn Gartrefi Dinas Casnewydd Simon Andrews: “Gweithiom yn agos gyda’r Uned Troseddau Tân a Chyngor Dinas Casnewydd dros gyfnod y Nadolig i sicrhau bod yr ardal hon yn ddiogel i’n preswylwyr. Yr ydym yn cymryd peryglon tân o ddifrif, a gweithiodd ein timau gyda’i gilydd i gael gwared â’r sbwriel a glanhau’r ardal.

Byddwn yn atgyweirio’r difrod tân i’n hadeiladau a’n gatiau, ac yn adnewyddu sawl bin. Mae ein cynllun adfywio blaenllaw gwerth yn Ringland sy’n werth saith miliwn a hanner o bunnoedd, yn cynnwys adeiladu 170 o gartrefi newydd ac adleoli Canolfan Siopa Ringland. Mae’r gwaith yn dod ymlaen yn dda wrth ddatblygu ‘Cot Farm’, sef y cam cyntaf, ac wrth gyflawni’r camau eraill rydym yn gobeithio adfywio’r ardal. Ystyriwyd ceisio atal digwyddiadau fel hyn wrth gynllunio’r datblygiad newydd