Covid-19 – Cyngor Diogelwch Tân

Os ydych yn gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n ymbellhau’n gymdeithasol, rydym yn gwybod y byddwch yn treulio mwy o amser gartref yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallai hyn gynyddu’r siawns y byddwch chi’n cael tân yn eich cartref.

Yn ffodus, drwy gymryd pedwar cam hawdd, gallwch chi leihau’r risg yn sylweddol i chi a’ch anwyliaid

  • Peidiwch â gadael bwyd yn coginio heb oruchwyliaeth

Diffyg gwyliadwriaeth yw prif achos tân mewn tai ar lefel genedlaethol. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o’r tanau coginio rydym yn eu mynychu yn ymwneud â rhywun sy wedi dechrau coginio bwyd, anghofio amdano a’i losgi. Fel arfer, mae’r gweddill o achosion yn cynnwys sosbenni sglodion – defnyddiwch sglodion i’w coginio yn y ffwrn yn lle hynny

  • Gofalwch nad ydych chi wedi gadael dillad, tyweli te ac eitemau eraill ar bwys gwresogyddion, hob/pentan a ffynonellau gwres eraill

Achos blaenllaw arall o dân mewn tŷ yw pobl yn gadael pethau fel dillad a thywelion te ar hobiau a gwresogyddion cludadwy. Gall eitemau fel hyn fynd ar dân yn hawdd , felly mae’n hanfodol eich bod yn eu cadw draw o fflamau noeth a ffynonellau gwres eraill.

  • Archwiliwch offer trydanol, peidiwch â gorlwytho socedi a pheidiwch byth â defnyddio eitemau neu nwyddau gwyn diffygiol

Hyn a hyn o b yn wêrunig y gall ceblau estyniad eu cymryd –os plygiwch ormod o bethau iddynt mae siawns go lew y byddant yn chwythu. Gall nwyddau diffygiol hefyd fod yn broblem fawr. Os nad yw eich peiriant golchi neu eich sychwr dillad yn gweithio’n iawn – rhowch y gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a’i harchwilio.

  • Gwnewch yn siwr fod gennych chi larymau mwg gweithredol a’ch bod chi’n eu harchwilio’n gyson

Mae larymau mwg yn achub bywydau, ond rhaid bod rhai gyda chi a rhaid bod nhw’n gweithio’n iawn. Gallant roi rhybudd cynnar i chi am dân – yn ddigon cynnar i chi ddianc yn ddiogel. Prynwch nhw. Ffitiwch nhw. Profwch nhw.

Yn ystod cyfnod hwn, sy’n heriol iawn i bob un ohonom, byddem yn gofyn, yn ogystal ag ystyried y cyngor hwn eich hun, eich bod yn trosglwyddo’r negeseuon i’ch ffrindiau, eich cymdogion a’ch perthnasau – yn enwedig y rhai dros 70 oed.

Cofiwch, mae’n diffoddwyr tân yn barod i ymateb i alwadau 999, ledled De Cymru, yn ôl yr angen.

Cliciwch yma am wybodaeth ddiogelwch tân yn y cartref

Cliciwch yma am wybodaeth ddiogelwch busnes

 

Oes gennych chi blant gartref?

Os yw eich plant gartref ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau i’w cadw’n brysur, gan gynnwys pecynnau gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho, taflenni lliwio a gemau rhyngweithiol.

Cliciwch yma!

Mae’r sefyllfa gyfredol yn ddigynsail ond gall y cyhoedd fod yn sicr y byddwn yn parhau i weithredu mor agos i’r arfer ag sy’n bosibl. Mae’r amgylchiadau a chyngor gan yr awdurdodau yn prysur newid, ond ein nod yw amddiffyn pobl De Cymru yn ogystal â’n staff.

I gael y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y coronafeirws, ewch i wefan GIG: www.gig.uk/coronavirus a dilynwch ganllawiau UK Government ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.