#ByddwchChiYnEdifarhau – Peidiwch â gadael i dân ddiffodd y dathlu…

Mae tymor yr ŵyl yn amser arbennig i ddathlu, ond gallai’ch eich sylw gael ei ddwyn i gyfeiriadau eraill. Eleni, rydym yn gofyn i chi gadw diogelwch tân ar frig eich rhestr.

Mae llawer ohonom yn mwynhau diod fach lawen dros y gwyliau, fodd bynnag, gall cymysgu coginio ac alcohol fod yn rysáit ar gyfer trychineb.

Cofiwch – mae tân yn cynnau pan fydd eich sylw yn crwydro!

Coginio heb oruchwyliaeth yw un o brif achosion tanau domestig yn ne Cymru a gall arwain at ganlyniadau trasig. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, cafodd un o bob tri tau damweiniol domestig dros yr ŵyl ei achosi o ganlyniad i goginio heb oruchwyliaeth.

Os mewn parti neu os ydych chi’n cael noson allan yn y dafarn, mae’n well prynu bwyd ar y ffordd adref, yn hytrach na cheisio coginio ar ôl cyrraedd. Os ydych chi eisiau gwneud bwyd o gwbl ar ôl cyrraedd adref, mae’n well paratoi bwyd oer.

Os nad ydych chi’n canolbwyntio, yna gall coginio hyd yn oed y pryd symlaf achosi tân – felly pan fyddwch chi’n paratoi twrci gyda’r holl drimins, mae’n bwysicach fyth i gadw’n effro. Mae’n hawdd i’ch sylw crwydro pan fyddwch chi’n coginio pryd mawr – dim ond ychydig eiliadau sydd eu hangen i dân ddechrau.

Dydyn ni ddim am i’ch dathliadau arwain at drasiedi achos y peryglon ychwanegol yr adeg hon o’r flwyddyn. Felly pan fyddwch chi’n addurno, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gorlwytho socedi – Cofiwch roi un plwg yn unig ym mhob soced. Dylech bob amser ddadblygio goleuadau Nadolig pan fyddwch chi’n mynd i’r gwely neu’n gadael y tŷ. Yn ystod y tair blynedd diwethaf achoswyd un o bob pump o danau damweiniol domestig dros gyfnod yr ŵyl gan waith trydanol diffygiol.

Dywedodd Dean Loader, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Diogelwch Cymunedol a Lleihau Risg,: “Mae tanau’n ddinistriol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond mae hyn hyd yn oed yn fwy dros yr ŵyl.
Gan gynnwys canhwyllau, goleuadau Nadolig, gorlwytho socedi plygiau, coginio wedi’u gadael heb oruchwyliaeth, rydym am i chi fod yn ddiogel a chymryd camau i atal tanau rhag digwydd a difetha’r gwyliau. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar ein hawgrymiadau diogelwch, gwnewch yn siŵr fod gennych larwm tân sy’n gweithio a’ch bod chi’n ei archwilio’n gyson, bod cynllun dianc gyda chi a’ch bod chi’n ymwybodol o’r peryglon posibl. ”

I gael rhagor o wybodaeth am gadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel dros y gwyliau cewch lawrlwytho ein llyfryn Diogel ac Iach yma