“Blaenoriaethu elw yn hytrach na diogelwch” yn arwain at ddirwy o £24,000

Mae gweithredwr cartref gofal yn Ne Cymru wedi pledio’n euog i gyhuddiad o dorri rheoliadau diogelwch tân mewn cartref gofal preswyl ym Mhorthcawl ac wedi cael gorchymyn i dalu £24,000 mewn dirwyon yn ogystal â £9,930.70 o gostau.

Dedfrydwyd Breaksea Residential Care Homes Cyf. ar yr 2il o Fawrth 2020 yn Llys Ynadon Caerdydd yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC).

Canfuwyd bod Breaksea wedi ymrwymo tair trosedd o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 mewn perthynas â chartref gofal Newton ym Mhorthcawl; cartref gofal preifat yn cynnwys dros dri deg o ystafelloedd gwely

Gorchmynnodd y Barnwr Stephen Harmes i’r cwmni dalu’r cyfanswm o £33,930.70 o fewn 56 diwrnod.

Roedd y troseddau’n ymwneud â threfniadau diogelwch tân gan gynnwys hyfforddiant diogelwch tân i staff a methu cynnal ymarferion gwacáu priodol.

Mae’r mesurau hyn yn hanfodol er mwyn i breswylwyr allu dianc yn ddiogel mewn achos o dân.

Wrth grynhoi, dywedodd y Barnwr Harmes “Roedd risg amlwg o ganlyniad i geisio arbed arian” a bod Breaksea wedi bod yn “blaenoriaethu elw yn hytrach na diogelwch”.

Dywedodd Owen Jayne, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Adran Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Ein rôl ni yw gweithio gyda busnesau ar draws De Cymru i’w cefnogi i amddiffyn busnesau a phreswylwyr rhag perygl tân.  Nod y ddeddfwriaeth diogelwch tân yr ydym yn ei gorfodi, a elwir yn Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, yw cadw preswylwyr yn ddiogel.  Pan fyddwn yn canfod achosion o dorri’r ddeddfwriaeth hon, mae dyletswydd arnom i gymryd camau i atal marwolaeth neu anaf difrifol.

“Nid yw’r penderfyniad i erlyn busnesau byth yn cael ei wneud heb ystyried yn fanwl, ond yn yr achos hwn roedd perygl difrifol i breswylwyr yn agored i niwed a phriodolwyd hyn yn uniongyrchol i’r camau gweithredu, neu mewn gwirionedd diffyg gweithredoedd y cwmni a oedd yn gyfrifol”.

Nid oes unrhyw foddhad yn bod o weld Breaksea Residential Care Homes Cyf.,  yn cael eu cosbi am fethu â chydymffurfio â’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ond rydym yn falch bod y barnwr wedi cydnabod y risgiau a bod difrifoldeb y ddedfryd yn adlewyrchu pa mor ddifrifol y mae’r llys yn gweld achosion o dorri’r rheoliadau diogelwch tan.”

Os oes gennych chi bryderon mewn perthynas â’ch busnes neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am Orchymyn Diogelch Tân (2005) ewch i https ://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/mewn-busnes/