Barry Emergency Services Station unveiled

Bydd Canolfan Gwasanaethau Brys a fydd yn uno ymladdwyr tân a chriwiau ambiwlans fel un tîm dan yr un to yn cael ei lansio yn y Barri yn ystod y mis hwn.

Mae Gorsaf Gwasanaethau Brys y Barri ar y gweill ers dros ddwy flynedd ac o ganlyniad i hyn bydd Gorsaf Dân helaeth y Barri yn cael ei thrawsnewid yn gartref cydweithredol i’r ddau Wasanaeth.
Wedi’i hyrwyddo gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac wedi’i haddasu yn ystod prosiect adeiladu 41 wythnos o hyd, yr Orsaf yw’r lleoliad diweddaraf a weithredir gan y Gwasanaeth sy’n cefnogi gwasanaethau brys i gydweithio â’i gilydd.

Mae gwasanaethau brys ar y cyd eisoes yn gweithredu o Faesteg, Pont-y-clun, y Barri, Caerffili, Abertyleri, yr Eglwys Newydd, y Rhath a Threlái ac mae lleoliadau ar y cyd ar y gweill ar gyfer Llanilltud Fawr, Trefynwy, y Fenni a’r Bontfaen ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Safle Llanilltud Fawr fydd y cyntaf o leoliadau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gynnal pedwar gwasanaeth mewn un adeilad – y Gwasanaeth Tân, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Heddlu De Cymru a Gwylwyr y Glannau.

Fel un o’r Gorsafoedd mwyaf ar draws ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae gan y Barri gysylltiadau rhagorol a llwyddodd i gynnal darpariaeth gwasanaethau brys yn ôl yr arfer er gwaethaf y gwaith adeiladu helaeth. Symudodd cydweithwyr o’r Gwasanaeth Ambiwlans i mewn yn gynharach yn y flwyddyn a daeth yr orsaf yn llawn weithredol ar gyfer y ddau wasanaeth ar y 1af o Orffennaf.

Dywedodd Andrew Thomas, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Y Barri yw un o’n gorsafoedd mwyaf ar draws ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae hi mewn lleoliad gwych o ran cysylltiadau ffyrdd.

“Yn ogystal â darparu arbedion ariannol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae cydweithio mewn un orsaf yn helpu meithrin perthynas waith ardderchog gyda’n cydweithwyr gwasanaethau brys gan greu cyfleoedd hyfforddi ar y cyd i bob un ohonom.

“Rydym yn falch iawn o groesawu ein cydweithwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’r Barri ac rydym yn falch o weld y prosiect gwych hwn yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Cyllid (dros dro) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau i allu rhannu’r cyfleuster hwn gyda’n partner gwasanaethau brys, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

“Bydd y cyfleuster cyfun hwn yma yn y Barri, yn ein galluogi i weithio’n agosach er lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn ogystal â chyflawni effeithlonrwydd gweithredol.”