Arwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cael eu hurddo gan y Frenhines

Arwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cael eu hurddo gan y Frenhines am eu cyfraniad eithriadol

Cyrhaeddodd swyddog tân mewn gwasanaeth a Chadeirydd Awdurdod Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ill dau restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, sy’n cydnabod cyflawniadau eithriadol a phobl nodedig ar draws y DG.

Mae’r ymroddiad, y dewrder a’r tosturi a welwyd gan y derbynyddion hyn, p’un ai wrth ymateb ar y rheng flaen neu allan yng nghymunedau De Cymru’n ysbrydoliaeth. Aeth Cynghorydd Tudor Davies a Rheolwr Grŵp Shaun Moody i’r eithaf a thu hwnt wrth wasanaethu a diogelu’r cyhoedd. Cydnabuwyd Tudor yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) a derbyniodd Shaun Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).

O gydweithredu arloesol ac arweinyddiaeth eithriadol i ddatblygu hyfforddiant sy’n achub bywydau, mae Tudor a Shaun yn wir asedau i deulu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Rheolwr Grŵp Shaun Moody

Cysegrodd Rheolwr Grŵp Shaun Moody ei fywyd i achub eraill wrth hyrwyddo datblygiad hyfforddiant chwilio ac achub ledled y byd. Arweiniodd ei arbenigedd at ei benodiad ag Uned Diogelu Sifil yr Undeb Ewropeaidd, lle mae’n parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad gwell technegau chwilio ac achub ar draws Ewrop. Bu Shaun yn ganolog wrth ddatblygu a darparu hyfforddiant ar draws y Gwasanaeth, a arweiniodd at dechnegau blaen y gad ac offer achub arobryn yn cael eu defnyddio ar hyd a lled De Cymru.

Gwelodd gweledigaeth, ymroddiad ac arweinyddiaeth Shaun ef yn hwyluso cynhaliaeth digwyddiad achub mwya’r byd ym mhrifddinas Cymru. Mae ei ymroddiad i helpu eraill, yn genedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys darparu cefnogaeth rheng flaen yn dilyn trychinebau mawr megis y daeargrynfeydd yn Sumatra (2009), Seland Newydd (2011) a Nepal (2015) lle arweiniodd, rheolodd a hyfforddodd eraill i gyflawni achubiadau cymhleth. Enillodd ei lwyddiant gydnabyddiaeth yn lleol lle derbyniodd Wobr Dinasyddiaeth y Maer ar lefel Aur a Phlatinwm ill dau.

Swyddog gweithredol mewn gwasanaeth yw Shaun sydd wedi cysegru ei amser rhydd i helpu eraill. Mae ei angerdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth rannu ei wybodaeth a’i arbenigedd, yn aml yn ei amser hamdden, i sicrhau gall cymunedau’r DG a ledled y byd elwa. Mae ei enw da ym maes chwilio ac achub heb ei ail. Hefyd, cyfrannodd Shaun at elusennau wrth rannu addysg ac arbenigedd ac wrth hyfforddi diffoddwyr tân yn Ghana, Rwsia a Rwmania.

Cynghorydd Tudor Davies

Fel Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, ar hyd y blynyddoedd, rhoddodd Cynghorydd Tudor Davies wir ymroddiad wrth sicrhau bydd cymunedau lleol yn elwa o wasanaeth tân ac achub o safon byd. Cysegrodd ei fywyd i gynrychioli cymunedau De Cymru fel Cynghorydd lleol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am 37 mlynedd, fel cadeirydd yr Awdurdod ac mewn ystod o rolau gwirfoddol di-dâl. Arweiniodd Tudor yr adolygiad i addasrwydd a lleoliad holl orsafoedd tân ar draws De Cymru a gyflawnodd arbedion o £2 miliwn, wrth barhau i gynnal cwmpasiad tân effeithiol ac wrth ostwng nifer y marwolaethau a achoswyd gan dân i’r lefel isaf erioed.

Gwelodd ei angerdd tuag at gydweithredu fwy o gydweithio ymysg y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, a arweiniodd at arbedion y tu hwnt i £7 miliwn dros ddim ond 5 mlynedd. Yn 81 oed, mae Tudor yn dal i wasanaethu fel Cynghorydd lleol gydag ymroddiad, ymrwymiad ac angerdd diflino i wneud gwahaniaeth. Mae Tudor hefyd yn rhoi amser sylweddol i elusennau, ymddiriedolaethau a chyrff llywodraethu ac mae’n godwr arian ymroddedig, yn codi miloedd at Ymchwil Cancr.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Huw Jakeway QFSM: “Mae’r anrhydeddau hyn yn gwbl haeddiannol ac estynnaf fy llongyfarchion cynhesaf i bawb a gydnabuwyd yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae’n fraint gennym feddu ar Gynghorwyr a swyddogion fel Tudor a Shaun, sy’n gweithio’n ddiflino nid yn unig i ddiogelu cymunedau De Cymru, ond hefyd i rannu’u sgiliau’n ehangach yn rhagweithiol i leihau risg ar draws y DU. Dim ond cipolwg o’r bobl ysbrydoledig sy’n gweithio ar draws ein Gwasanaeth i wneud ein cymunedau’n ddiogelach yw hwn. Rwy’n hynod falch i weithio law yn llaw â hwy.”

Gellir canfod rhestr gyflawn o’r derbynyddion yn y London Gazette.