Wythnos diwethaf (27 Hydref 2022), mynychodd criwiau o Orsafoedd Y Fenni a Merthyr Tydfil i ddigwyddiad achub anifail mawr yn Pitt Farm Cottage yn Llanarth. 

Ar fore dydd Iau, roedd Herbi, ceffyl 26 mlwydd oed a 17’2 llaw o uchder, wedi cael ei hun yn sownd mewn ffos, ac ni roedd yn medru codi ei hun allan ohono. 

Cafodd Herbi ei ddarganfod yn gyflym, a gelwir Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ei ran i ofyn am gymorth. 

Fe ddaeth criwiau o hyd i Herbi diolch i’r lleoliad ‘What 3 Words’, ac fe wnaethant gweithio ochr wrth ochr â milfeddyg ar y safle er mwyn rhyddhau Herbi’n ddiogel o’r ffos. Cafodd Herbi yna ei adael gyda’i berchenogion ar ôl cadarnhau nad oedd unrhyw pryderon dros ei iechyd. 

Allwch chi helpu creu gwahaniaeth yn eich cymuned lleol? 

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân ar Alwad yn nifer o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru – yng nghynnwys Y Fenni! Darganfyddwch mwy o wybodaeth am y rôl ar ein tudalen Diffoddwyr Tân ar Alwad. 

Ddim yn sicr lle mae eich orsaf lleol? Defnyddiwch y map ar ein Tudalen Cartref i ddod o hyd i’r orsafoedd.