Diweddariad Cymru Gyfan – Storm Dennis

Mae staff y Gwasanaeth Tân ac Achub ledled Cymru wedi dangos proffesiynoldeb ac ymroddiad eithriadol wrth gynorthwyo eu cymunedau ar ôl dwy storm olynol o fewn ychydig dros wythnos, mae adnoddau wedi’u hymestyn yn fawr gyda staff yn cael eu galw yn ôl i fod ar ddyletswydd am oriau maith i gynorthwyo eu cydweithwyr.

Mae’r stormydd hyn wedi esgor ar gynnydd eithriadol o ran nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan ein hystafelloedd rheoli tân ledled Cymru, gyda staff rheoli yn darparu cyngor hanfodol ar achub bywydau, cymorth a hydwythedd yn ystod y cyfnod prysur hwn. Roedd y galwadau’n cynnwys ceisiadau am gymorth gyda thanau mewn tai, strwythurau peryglus, coed yn cwympo, achub rhag llifogydd, pwmpio dŵr o safleoedd, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac achub anifeiliaid.

Cydnabu’r tri Phrif Swyddog Tân yng Nghymru fod pob un o’r ddwy ystafell reoli yng Nghymru wedi darparu rôl hanfodol wrth gydlynu’r broses o ddefnyddio adnoddau hanfodol ledled Cymru i’r mannau lle yr oedd eu hangen fwyaf yn ogystal â darparu cyngor ar sut i oroesi mewn argyfwng a chanllawiau diogelwch i’r cyhoedd ill dau. Ar adegau fel hyn y mae’r buddsoddiad mewn technoleg i gydgysylltu’r ystafelloedd rheoli ar y cyd yng Ngogledd a De Cymru’n darparu’r budd mwyaf. Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod “digwyddiadau diweddar wedi dangos y gofynion dwys ar bob Gwasanaeth yn ystod cyfnodau o dywydd anffafriol” a chanmolodd y trefniadau ar gyfer hydwythder a weithredwyd ar draws y tri Gwasanaeth yng Nghymru i reoli’r galwadau hynny am gymorth.

Mae criwiau gweithredol wedi gweithio’n ddiflino mewn amodau anodd a beichus iawn i roi cymorth i’r cyhoedd lle bo angen, gyda llawer o staff yn dod yn ôl i weithio pan nad oeddynt ar ddyletswydd i gynorthwyo eu cymunedau mewn modd mor broffesiynol. Roedd staff cymorth hefyd yn gwneud yn siwr bod criwiau’n cael y cyfarpar a’r offer angenrheidiol i sicrhau y gallai criwiau ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru.

Canmolodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, broffesiynoldeb, ymroddiad a’i ymrwymiad ei staff mewn tywydd mor heriol, yn enwedig gan fod llawer ohonynt wedi cael problemau yn eu cartrefi eu hunain o ganlyniad i’r tywydd garw. Dywedodd hefyd “nid yw byth yn syndod i mi pa mor fodlon a brwdfrydig y mae ein staff wrth ymateb ar adegau brys cyffredinol, gan weithredu’r hyfforddiant helaeth y maent yn ymgymryd ag ef mewn amrywiaeth eang o senarios. Ein diben pennaf yw cynorthwyo’r cyhoedd ar un o’u diwrnodau gwaethaf.”

Mae’r stormydd wedi gofyn am gydweithio gan gynifer o bartneriaid a chanmolodd y tri Phrif Swyddog Tân waith cadarnhaol eu staff, yn enwedig wrth gydweithio gyda gwasanaethau brys eraill a phartneriaid sector cyhoeddus i sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i fod mor ddiogel â phosibl.  Dywedodd Chris Davies, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod “y trefniadau gweithio ar y cyd sydd ar waith gyda’n cydweithwyr yn yr Heddlu, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau eraill o fewn y sector cyhoeddus megis Cyfoeth Naturiol Cymru a’n Hawdurdodau Lleol wedi sicrhau bod cymorth brys wedi’i flaenoriaethu ar gyfer y cymunedau lleol oedd eu hangen fwyaf.”

Mae’r ddwy storm hyn a ddigwyddodd o fewn wythnos i’w gilydd yn dangos bod newid amgylcheddol ar waith a’n bod ni, fel Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, yn barod ar gyfer y perygl newidiol hwn. Mae rôl draddodiadol ein Gwasanaethau wedi newid dros y blynyddoedd ac mae’r tri Awdurdod Tân ac Achub wedi paratoi a buddsoddi i leihau’r newid hwn o ran risg.