Achub mwdlyd yng Nghas-gwent

Ar ôl wynebu anhawster mewn mwd trwchus ar arglawdd yr afon, roedd angen achub Sally y fuwch druan gan griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru!

Neithiwr (9 Mai 2022), mynychodd criwiau o Orsafoedd Tân ac Achub Cas-gwent a Phen-y-bont ar Ogwr i achubiad anifail mawr yn Ystâd Ddiwydiannol Fferm Newhouse yng Nghas-gwent.

Gan ddefnyddio ‘What 3 Words’, daeth criwiau o hyd i Sally ar yr arglawdd a  gweithiodd yn ddiflino yn hwyr y nos i’w rhyddhau.

Roedd hyn yn achub heriol i’n criwiau cyflawni. Roedd angen cynllun strategol ac offer arbenigol ac rydym yn falch i gyhoeddi bod Sally bellach yn ddiogel ac wedi dychwelyd i’r fuches.