Pam fod gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o gael damwain ffordd?

Pam fod gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o gael damwain ffordd?

Mae 25% o yrwyr a theithwyr sy’n marw mewn damweiniau ffordd O DAN 25 oed! Mae ymchwil yn dangos bod cyfuniad o ieuenctid a diffyg profiad yn sicrhau bod gyrwyr ifanc mewn mwy o berygl. Mae eu diffyg profiad yn golygu bod ganddynt lai o allu i weld peryglon, tra bod eu hieuenctid yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o gymryd risg.

Mae’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at bobl ifanc yn achosi damweiniau ffordd yn cynnwys:

  • Goryrru
  • Pwysau gan gyfoedion
  • Diffyg profiad
  • Peidio â gwisgo gwregysau diogelwch
  • Defnyddio ffonau symudol
  • Diffyg canolbwyntio

Diffyg profiad

  • Oherwydd diffyg profiad, rhaid i yrwyr ifanc ganolbwyntio’n fwy ar dasgau ymarferol sy’n golygu eu bod nhw’n arafach o ran ymateb i beryglon ac yn fwy tebygol o gael damwain

Alcohol a Chyffuriau

  • Gyrwyr ifanc yw’r troseddwyr mwyaf cyffredin o ran damweiniau ffordd sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Mae gyrwyr ifanc ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau o gymharu â gyrwyr hŷn

Diffyg Canolbwyntio

  • Mae gyrru yn galw am gydbwyso tasgau ymarferol ac adnabod peryglon yn barhaus. Rhaid i yrwyr ifanc ganolbwyntio’n fwy ar dasgau ymarferol sy’n golygu eu bod nhw’n arafach o ran newid rhwng tasgau ac yn ymateb yn arafach i beryglon

Ffonau Symudol

  • Gwelir yn gyson bod gyrrwyr iau yn debycach o ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, yn enwedig ffonau llaw, ac hynny ar gyfer mwy o lawer na galwadau yn unig

Dim gwregysau diogewlch

  • Mae gyrwyr a theithwyr ifanc yn llai tebygol o wisgo gwregysau diogelwch oherwydd pwysau cyfoedion

Pwysau Cyfoedion

  • Mae pwysau cyfoedion yn gallu annog gyrru gwael ac arwain at bobl ifanc yn teimlo bod angen iddynt frolio a chymryd mwy o risgiau. Mae hynny’n golygu eu bod nhw 4 gwaith yn fwy tebygol o gael damwain os oes pobl o’r un oedran â nhw’n teithio yn y car gyda nhw

Goryrru

  • Mae goryrru’n ffactor allweddol mewn damweiniau ffordd sy’n cynnwys pobl ifanc