Mae’r 5 Angheuol yn cyfeirio at y pum ffactor mwyaf arwyddocaol sy’n arwain at farwolaeth ac anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru.

Dod yn gyfarwydd â’r 5 Angheuol

Peidiwch ag yfed/cymryd cyffuriau â gyrru – Peidiwch â mentro bod yn un o’r 100,000 o yrwyr sydd wedi yfed neu gymryd cyffuriau sy’n cael eu dal bob blwyddyn. Gallech wynebu gwaharddiad o 12 mis o leiaf, dirwy fawr, cofnod troseddol neu gael eich carcharu hyd yn oed.

Gyrrwch gan bwyll – Rydych chi ddwywaith mor debygol o ladd rhywun rydych chi’n ei daro ar 35mya, nag ar 30mya. Gall gostyngiad o 1mya yn unig mewn cyflymder cyfartalog arwain at ostyngiad o 5% yn y raddfa gwrthdaro.

Peidiwch â bod yn ddiofal – Gall cerbyd fod yn arf marwol os caiff ei yrru’n ddiofal. Bydd cost benodedig yn arwain at ddirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded. Gall achosi marwolaeth wrth yrru’n beryglus olygu dedfryd yn y carchar hyd at 14 blynedd.

Gwisgwch wregys – Rydych chi ddwywaith mor debygol o farw os nad ydych chi’n gwisgo gwregys. Gall peidio â gwisgo gwregys fod yn benderfyniad angheuol, hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd, ac ar gyflymder araf. Fel gyrrwr, byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregys (neu’n defnyddio’r seddi cywir i blant ar gyfer eu taldra a’u hoedran.) Mae dirwyon yn y fan a’r lle yn £100 ond, os cewch eich erlyn, yr uchafswm yw £500.

Diffoddwch – Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiadau os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru, beth bynnag rydych chi’n ei wneud ag ef. Canlyniadau defnyddio eich ffôn wrth yrru yw dirwy o £200 a 6 phwynt ar eich trwydded. Ac, os byddwch chi’n achosi marwolaeth, gallech chi wynebu hyd at 14 blynedd yn y carchar.

 

Os byddwch yn amau bod rhywun yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol â llaw:

  • Rhowch wybod amdano drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng
  • Cyflwynwch dystiolaeth fideo neu ffotograffig drwy https://gosafesnap.cymru – dim ond os gallwch wneud hynny mewn modd diogel a chyfreithlon.