Gyda mwy o feiciau modur ar ffyrdd Prydain, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y beicwyr modur sy’n cael damweiniau ffordd yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gweithio gyda beicwyr modur i ostwng nifer y marwolaethau.

Mae beicwyr modur yn fwy agored i niwed o gymharu â defnyddwyr ffordd arall ac maen nhw’n parhau i gynrychioli cyfradd uchel o’r rheiny sy’n cael eu hanafu neu’u lladd ar ein ffyrdd. Byddai modd osgoi’r rhan fwyaf o ddamweiniau sy’n ymwneud â beiciau modur ac, yn rhy aml, mae damweiniau yn digwydd oherwydd camgymeriadau sylfaenol gan y beicwyr.

Mae beicwyr modur 55 gwaith yn fwy tebygol na gyrwyr ceir i gael anaf difrifol neu i farw mewn damwain.

 

Pryd mae beicwyr modur yn cael damweiniau?

Beicio ar Fola Llawn

Mae blinder yn achosi damweiniau, gan fod yn gyfrifol am hyd at 20% o ddamweiniau. Fel beiciwr modur, rydych chi tua 35 gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd mewn damwain ffordd (am bob milltir a deithiwyd) a dros 50 gwaith yn fwy tebygol o gael anaf difrifol mewn damwain ffordd.

O’r 22 damwain ffordd beiciau modur angheuol a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2016, digwyddodd y rhan fwyaf ohonynt (14) ar ôl cinio (canol dydd), gydag wyth ohonynt yn digwydd rhwng canol dydd a 2pm.

Cyfrifoldeb y beiciwr modur yw rheoli blinder a gwneud penderfyniadau diogel. Fodd bynnag, mae beicwyr modur yn gallu cwympo i gysgu ac mae’r damweiniau hyn wedi cael eu cofnodi.

 

Beiciau modur – cyngor

  1. CYNLLUNIO: Cynlluniwch eich mannau aros yn ogystal â’ch taith. Gosodwch nodau pellter cyraeddadwy.
  2. CYSGU: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg cyn teithio ar eich beic.
  3. YFED: Yfwch ddigon o ddŵr. Peidiwch ag yfed diodydd melys, caffein ac alcohol.
  4. BWYTA: Bwytewch brydau llai o faint yn fwy aml, ac osgowch fwydydd llawn carbohydradau. Mae prydau mawr a bwydydd llawn carbohydradau, braster a siwgr yn arafu eich corff wrth iddo ganolbwyntio ar dreulio’r bwyd.
  5. AROS: Gwnewch yn siŵr eich bod yn aros o leiaf unwaith bob dwy awr. Arhoswch am gyfnodau hirach rhwng 3pm a 5pm oherwydd dyma’r adeg pan fydd beicwyr modur yn teimlo fwyaf blinedig ac angen mwy o amser i adfer.
  6. YMARFER CORFF: Pan fyddwch wedi aros, ewch am dro er mwyn eich cadw chi’n ffres.
  7. GWRANDO: Gall sŵn y gwynt achosi blinder. Gwisgwch blygiau clust neu gwrandewch ar gerddoriaeth. Ystyriwch ddefnyddio system gyfathrebu er mwyn siarad gyda beicwyr eraill er mwyn eich cadw chi ar ddihun.
  8. GRWPIAU: Teithiwch mewn grŵp bach. Mae beicwyr modur unigol yn fwy tebygol o golli’r gallu i ganolbwyntio, tra bod teithio mewn grŵp mawr yn gallu arwain at yr un canlyniad. Teithiwch mewn grŵp bach a chymerwch droeon wrth arwain.

 

Cyngor dillad i feicwyr modur

  • Gwisgwch ddillad addas, hyd yn oed ar deithiau byr.
  • Gwnewch yn siŵr bod pobl yn gallu eich gweld – gwisgwch ddillad fflworoleuol
  • Gwisgwch siaced â llewys hir, sy’n dynn o amgylch eich canol
  • Gwisgwch drowsus hir i’ch diogelu rhag mannau cynnes y beic ac i’ch diogelu mewn damwain
  • Gwisgwch fenig bysedd llawn er mwyn cynnal rheolaeth dros y beic, ac i ddiogelu eich dwylo os byddwch yn cwympo oddi ar y beic ac yn llithro ar draws y ffordd
  • Dewiswch yr helmed gywir – gall eich helmed achub eich bywyd. Bydd system raddio SHARP yn eich helpu chi i ddeall pa mor effeithiol yw helmed mewn damwain. Ewch i wefan SHARP i gael mwy o wybodaeth.
  • Mae’n bwysig gwisgo esgidiau addas wrth deithio ar feic modur. Ni fydd sandalau ac esgidiau ymarfer yn diogelu eich traed os cewch chi ddamwain

 

Damweiniau beiciau modur – a fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud?

Petaech chi’n cyrraedd damwain beic modur gyntaf, a fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud? A fyddech chi’n gwybod pwy sydd fwyaf agored i risg, sut i ddiogelu’r ardal neu a ddylech chi dynnu helmed beiciwr modur sydd wedi’i anafu i ffwrdd?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cynnig cwrs i feicwyr, sef cwrs Beiciwr i Lawr Cymru. Dyma gwrs hyfforddi tair awr o hyd sy’n rhad ac am ddim, a gynhelir gan feicwyr i feicwyr, ac sy’n anelu at ateb y cwestiynau hyn.

Mae mwy o wybodaeth am gwrs Beiciwr i Lawr Cymru ar gael fan hyn: info@bikerdowncymru.org.uk

 

Cyngor i yrwyr er mwyn osgoi achosi damwain gyda beic modur

Dyma gyngor syml i’ch helpu chi i osgoi cael damwain gyda beic modur:

  • Cadwch eich pellter – mae gyrru’n rhy agos yn gallu dychryn beicwyr modur llai profiadol
  • Gwiriwch am feiciau modur wrth droi – gwiriwch ddwywaith wrth droi i’r chwith ac i’r dde
  • Byddwch yn wyliadwrus o feiciau modur wrth dynnu allan o gyffordd. Os ydych yn nesáu at gyffordd, byddwch yn wyliadwrus o feiciau modur sy’n tynnu allan hefyd
  • Gwiriwch am feiciau modur wrth newid lôn – efallai bod beic modur yn teithio yn y gofod rydych yn bwriadu symud iddo, neu’n symud yn gyflym i’r cyfeiriad hwnnw. Cofiwch eich man dall
  • Parciwch eich cerbyd yn ofalus – gwiriwch am feiciau modur cyn agor eich drws, a sicrhewch fod eich cyd-deithwyr yn gwneud yr un peth. Wrth symud i ffwrdd, cofiwch wirio am feicwyr modur gan eu bod nhw’n gallu sbarduno’n gyflymach na cheir