Yn unol â Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988, mae disgwyl i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru gynnal cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau. Yn ôl y Ddeddf, mae angen i Awdurdodau sefydlu cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, diogelu’r amgylchedd a materion perthnasol.

Darpara GTADC fanylion o hysbysiadau a gyflwynwyd i gofrestr genedlaethol a reolir gan Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CPST).

Mae’r gofrestr genedlaethol hon yn darparu manylion hysbysiadau erlyniad, gorfodi, gwahardd ac addasu ar fusnesau a gyflwynwyd gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr.