Gallech gael eich dirwyo neu fynd i’r carchar os na fyddwch chi’n dilyn rheoliadau diogelwch tân.

Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn gorfodi Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ac yn arolygu safleoedd i sicrhau cydymffurfio. Byddwn ni’n cyflawni amrywiaeth eang o arolygiadau yn seiliedig ar risg. Rydym ni’n ymroddedig i reoleiddio teg a chadarn, gydag egwyddor sylfaenol o gyfranoledd mewn sicrhau cydymffurfio a thargedu camau gorfodi.

Gallwn gyflwyno hysbysiadau diogelwch tân, yn rhoi gwybod i chi am newidiadau sydd angen i chi eu gwneud. Os dymunwch herio hyn, mae proses apelio. Dylai Swyddogion Diogelwch Tân eich helpu chi ddeall y rheolau a sut i gydymffurfio â nhw.

Hysbysiad newidiadau

Gallech gael hysbysiad newidiadau os oes gan eich safle risgiau diogelwch uchel, neu a fydd â risgiau diogelwch uchel os bydd defnydd y safle’n newid.

Hysbysiad gorfodi

Gallech gael hysbysiad gorfodi os byddwn ni’n canfod risg ddifrifol nad yw’n cael ei rheoli. Bydd yn nodi pa welliannau sydd eu hangen ac erbyn pryd.

Hysbysiad gwahardd

Bydd y rhain yn dod i rym ar unwaith os byddwn ni o’r farn bod angen gwahardd neu gyfyngu ar fynediad i’ch safle oherwydd bod y risg tân mor fawr.

Apeliadau

Os byddwch chi’n anghytuno â phenderfyniad i gyflwyno hysbysiad diogelwch tân, gallwch gysylltu â ni ar gyfer adolygiad anffurfiol.

Gallwch wneud apêl i’ch llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad.

Mewn rhai amgylchiadau penodol, gallwch chi a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ofyn am ‘benderfyniad’ gan yr Ysgrifennydd Cymunedau i ddatrys anghydfod.

Cosbau

Gallech gael dirwy neu fynd i’r carchar os na fyddwch chi’n dilyn y rheoliadau diogelwch tân.

Gall mân gosbau fod hyd at £5,000. Gall cosbau mawr fod yn ddirwyon diderfyn a hyd at 2 flynedd yn y carchar.

Cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau

Mae’n ofynnol i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, yn ôl Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988, gynnal cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau. Mae’r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau, y mae’r Ddeddf yn berthnasol iddynt, sefydlu cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd, a oedd yn ymwneud ag iechyd, diogelwch, diogelu’r amgylchedd, a materion cysylltiedig.

Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn darparu manylion am hysbysiadau a gyflwynwyd i gofrestr genedlaethol a reolir gan Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân (CCPT).

Mae’r gofrestr genedlaethol hon yn darparu manylion ynghylch hysbysiadau erlyniad, gorfodi, gwahardd a newid a gyflwynir i fusnesau gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr.

Cewch fynediad at gofrestr CCPT yma.