Cais am ymweliad neu gyngor diogelwch cartref

Cais am ymweliad

Bydd ymarferydd Diogelwch Cartref yn ffonio / e-bostio / anfon neges destun atoch ac yn mynd trwy gyngor gyda chi yn gofyn ychydig gwestiynau i chi am eich cartref, os bydd angen larymau bydd yr Ymarferydd Diogelwch Cartref yn sgwrsio trwy ychydig o opsiynau i gael y rheini atoch chi.

A ydych wedi sefyll ein prawf hunanasesu i weld a ydym yn argymell ymweliad diogelwch cartref? Os na, cymerwch y prawf yn gyntaf.

Os ydych yn byw yn Ne Cymru, rydym yn cynnig y cyfle i chi gael ymweliad Diogelwch Cartref AM DDIM yn eich cartref.

Ewch i’n map gorsaf i weld pa feysydd rydyn ni’n eu cynnwys. Os ydych chi’n byw mewn cod post SA, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Os ydych chi’n cyfeirio o Asiantaeth, cwblhewch Ffurflen Atgyfeirio yr Asiantaeth.  I gwblhau’r ffurflen hon bydd angen y feddalwedd ganlynol arnoch sydd ar gael yn rhad ac am ddim, Adobe Acrobat Reader DC.

Llawrlwythwch y darllenydd Adobe pdf sydd ar gael yn rhad ac am ddim yma

1Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn tri ddiwrnod gwaith, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn rhad ac am ddim 0800 1691234 neu drwy anfon neges destun at 07756847123.

2Ble glywoch chi am yr archwiliad tŷ diogelwch cartref?


3Gofynion ar gyfer y bobl sy’n byw yn y ty:


 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd diffoddwyr tân o’ch gorsaf dân leol neu ein Tîm Diogelwch Cartref yn cysylltu â chi. Os bydd angen ymweliad arnoch, bydd yn cymryd tua 30 munud a byddwn yn darparu ac yn gosod larymau tâna synwyryddion gwres  yn rhad ac am ddim os gwelwn risg. Yn ogystal, mae larymau ar gyfer pobl fyddar ar gael.

Rhaid i ni edrych ar bob cais Diogelwch Cartref  a dderbyniwn i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r gwasanaeth cywir; efallai na fydd angen i ni ymweld â chi. Mae’n bosib y cawn ddarparu’r arweiniad diweddaraf i chi o ran lleihau risgiau tân yn eich cartref a larymau mwg rhad ac AM DDIM os oes angen.