Mae Gwasanaeth Tân ac achub De Cymru wedi ymroi i gadw cymunedau’n ddiogel gan eich helpu chi i adnabod peryglon a deall sut i leihau risg yn eich cartref.

Drwy ddilyn y camau hyn am ddiogelwch hanfodol o fewn y cartref a defnyddio’r cyngor bob dydd, cewch wneud eich cartref yn ddiogelach:

Mae larymau mwg gweithredol yn arbed bywydau
  • Cofiwch, rhaid bod larwm mwg fod yn weithredol er mwyn gallu rhoi rhybudd i chi. Gwnewch yn siwr bod un gyda chi a chofiwch ei brofi bob wythnos. Gofynnwch am ymweliad Diogelwch Cartref
Byddwch yn gyfarwydd â ffordd ddiogel i fynd allan o’r tŷ
  • Cynlluniwch ymlaen llaw sut byddech yn dianc pe byddai tân yn eich cartref. Ymgyfarwyddwch â chynllun gwagio’r adeilad; gofynnwch i reolwr eich adeilad, eich landlord neu eich warden.  Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Mabwysiadwch drefn gyson wrth noswylio
  • Bob nos, cofiwch gau bob drws, diffodd pob cyfarpar a thynnu’r plygiau. Cadwch eich ffôn ac unrhyw gymorth symudedd wrth law rhag ofn bydd eu hangen arnoch. Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Cymerwch fwy o bwyll wrth goginio
  • Cadwch unrhyw beth llosgadwy yn ddigon pell o’r stof. Defnyddiwch amserydd a pheidiwch byth â gadael y stof heb ei gwarchod. Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Archwiliwch eich cyfarpar
  • Os na fyddwch yn defnyddio cyfarpar, tynnwch y plygiau, heblaw bod angen idddynt fod ymlaen drwy’r amser e.e. oergell/rhewgell. Cadwch eich offer yn lan a sicrhau eich bod yn ei gynnal a bod marc diogelwch Prydain neu Ewrop ar bob un.  Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Byddwch yn ofalus iawn gyda thanau agored a gwresogyddion
  • Defnyddiwch gard rhag tân bob tro a gwnewch yn siwr nad yw canhwyllau’n cael eu gosod yn ymyl dim byd llosgadwy. Sicrhewch fod gwresogyddion yn ddigon pell o bopeth arall a pheidiwch â rhoi dim byd drostynt.  Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Peidiwch â gorlwytho socedi plygiau
  • Defnyddiwch un plwg yn unig i bob soced a pheidiwch byth â’u defnyddio os byddant yn wlyb.  Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref
Gwnewch yn siwr eich bod yn diffodd pob cyfarpar ysmygu’n iawn
  • Sicrhewch eich bod yn diffodd pob sigaret a’i waredu’n iawn gan gadw matsis a thanwyr yn bell o gyrraedd plant. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.  Am fwy o gyngor, darllenwch y Canllaw Diogelwch yn y Cartref

Darganfyddwch pa mor ddiogel ydych chi gartref trwy sefyll ein prawf cyflym a hawdd. Bydd y prawf yn dweud wrthych a oes angen i chi lenwi’r ffurflen gais am ymweliad cartref, lle gallai fod gennych hawl i larymau am ddim.

I dderbyn cyngor diogelwch cartref AM DDIM neu ymweliad, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein.

 

Diogelwch Trydanol yn Gyntaf

 

Mwy dolfennu defnyddiol