Y Strwythur Corfforaethol

Yr Awdurdod Tân

Ers mis Ebrill 1996, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer ardal ddaearyddol De Cymru.

Mae’r Awdurdod Tân ac Achub yn cynnwys 24 aelod, sy’n cynrychioli 10 o’r Awdurdodau Unedol yn ne Cymru.

Amlygir swyddogaethau craidd yr Awdurdod Tân ac Achub yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

 

Y Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol (TAG)

Mae’r TAG yn cynnwys:

 

Huw Jakeway (QFSM) – Prif Swyddog Tân

Fel Prif Swyddog Tân mae Huw yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol yr holl staff a chydlynu’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gyffredinol.

 

Dewi Rose – Dirprwy Brif Swyddog Tân Dros Dro – Cyfarwyddwr Cyflenwi Gwasanaethau

Mae Dewi yn gyfrifol am yr adrannau canlynol:

  • Gweithrediadau
  • Lleihau Risg
  • Rheoli Tân

 

Richie Prendergast – Prif Swyddog Tân Cynorthwyol – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol

Mae Richie yn gyfrifol am yr adrannau canlynol:

  • Fflyd a Pheirianneg
  • Rheoli Risg Gweithredol
  • TGCh

 

Geraint Thomas – Prif Swyddog Cynorthwyol – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Mae Geraint yn gyfrifol am yr adrannau canlynol:

  • Y Wasg a Chyfathrebiadau
  • Cynllunio Perfformiad
  • Llywodraethu Gwybodaeth
  • Eiddo
  • Cymorth Busnes
  • Chyllid a Chaffael

 

Alison Reed – Prif Swyddog Cynorthwyol – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl

Mae Alison yn gyfrifol am yr adrannau canlynol:

  • Adnoddau Dynol
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Chydraddoldeb ac Amrywiaeth

 

Chris Barton – Trysorydd

Mae Chris yn gyfrifol am gyllid a chaffael cyffredinol y Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Cysylltiadau Defnyddiol