Gweithredu Safonau’r Gymraeg

Yng Nghymru, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal i’r Saesneg, ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys yr Awdurdodau Tân ac Achub, gydymffurfio â set o Safonau’r Gymraeg. Mae gan bob corff y sector cyhoeddus ei Safonau Cymraeg ei hun. Cliciwch isod i weld y Safonau Cymraeg sy’n berthnasol i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.    

Hysbysiad Cydymffurfio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

“Cynllun Gweithredu Safonau’r Gymraeg”
Mae’n gyfreithiol ofynnol ar Awdurdod Tân ac Achub De Cymru i gyhoeddi dogfen sy’n esbonio sut mae’n bwriadu cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, a beth yw ei brosesau mewnol ar gyfer gweithredu monitro a goruchwylio. Cliciwch isod i weld y ddogfen, Cynllun Gweithredu Safonau’r Gymraeg.

Cynllun Gweithredu Safonau’r Gymraeg

Gwneud cwyn:
Os hoffech wneud cwyn am safon gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, neu ei fethiant i gydymffurfio â Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, cysylltu â ni