Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus

Ar 1 Ebrill 2016, cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) statudol yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd BGC yn sydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ardal y bwrdd.

Bydd pedwar Aelod statudol ar bob BGC:

  • Yr Awdurdod Lleol perthnasol
  • Y Bwrdd Iechyd
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Amrywiaeth o bartneriaid eraill y cyfeirir atynt fel ‘Cyfranwyr Gwahoddedig’