Fideos yr Awdurdod Tân
Gwyliwch ein fideos Awdurdod Tân. Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn gyfrifol am ddarparu’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer ardal ddaearyddol De Cymru.
Mae’r Awdurdod yn goruchwylio gwaith GTADC, trwy bwyllgorau cyllid, AD a chydraddoldeb, y bwrdd pensiwn lleol a safonau, yn ogystal â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Gweld mwy ar Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, gan gynnwys agendâu a chofnodion y pwyllgorau a’r CCB.
Cyhoeddir fideos o gyfarfodydd yr Awdurdod, a gynhelir yn bersonol neu drwy Starleaf yma ac maent ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eithriad, o dan Safon 38 o’r Safonau Cymraeg, sy’n caniatáu i bapurau’r Awdurdod Tân gael eu cyflwyno yn Saesneg yn unig.