Datganiad Cenhadaeth
- I ymgysylltu â phobl ifanc a’u haddysgu ynghylch peryglon Llosgi Bwriadol, Troseddau Ceir ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Cysylltu eu gweithrediadau â Chanlyniadau gan amlygu effeithiau eu hymddygiad byrbwyll
- Annog pobl ifanc i weithio mewn tîm, cynyddu hunan gymhelliad, sgiliau cyfathrebu a’r boddhad o gyflawni’n gadarnhaol
Addasrwydd Grwpiau
Anelir Troseddau a Chanlyniadau yn bennaf oll at bobl ifanc all fod ar fin troseddu neu mewn perygl o aildroseddu, felly bydd e’n agored i’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, Unedau Diogel, Unedau Atgyfeirio Disgyblion, y Gwasanaethau Prawf, Grwpiau NEET, sefydliadau addysg amgen ac unrhyw asiantaeth sy’n ymgysylltu â phobl ifanc sy’n byw o fewn ardal Cymunedau’n Gyntaf.
Nod y prosiect yw:
- Gostwng nifer yr achosion o gynnau tân bwriadol, ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar y gwasanaeth tân a gweithgarwch troseddol wedi’i dargedu.
- Ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd wedi troseddu yn y gorffennol, sydd mewn perygl o droseddu neu sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig.
- Addysgu pobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad peryglus neu heriol.
- Gostwng nifer yr anafiadau a’r marwolaethau ymysg gyrwyr a theithwyr ifanc, neu’r rheiny sy’n ymwneud â throseddau cerbyd.
Beth mae’r prosiect yn ei gynnig?
- Rhwng 1 a 6 awr o ymyrraeth wedi’i thargedu.
- Ystod o offer a dulliau ymgysylltu, gan gynnwys DVDs rhyngweithiol, trafodaethau grŵp ac astudiaethau achos gwirioneddol sy’n rhoi sylw i’r 3 phwnc craidd, sef llosgi bwriadol, troseddau cerbyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Pwysleisio’r neges allweddol gan ddefnyddio ymgysylltu amgen, er enghraifft cwrs Ymladdwr Tân am y Dydd neu chwaraeon stepen drws.
- Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cymdeithasol gwerthfawr, er enghraifft gweithio mewn tîm, datrys problemau a chyfathrebu.
I gael mwy o wybodaeth, trowch at y Pecyn Troseddau a Chanlyniadau.
Gweithdai
Mae Troseddau a Chanlyniadau’n darparu gweithdai dosbarth ar ystod o bynciau gwahanol. Mae’r gweithdai i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yn para rhwng 1 a 6 awr.
Chwaraeon Stepen Drws
Ymyrraeth cynhwysiant cymdeithasol yw gweithgaredd chwaraeon stepen drws. Mae’r gweithgaredd hwn yn darparu cyfleoedd chwaraeon bywiog ac amrywiol i bobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig er mwyn cynyddu eu hysgogiad.
Ymladdwr Tân y Dydd
Mae’r tîm yn cynnal cwrs diwrnod dwys sy’n rhoi sylw i nifer o agweddau brwydro tân, adeiladu tîm, magu hyder ac addysg, wrth weithio ar ddriliau llawr y gwasanaeth tân.