Cynllun Atgyfeirio Cynnau Tân
Ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc sy’n chwarae â thân neu sy’n cynnau tân yn fwriadol? Mae Tîm y Cynllun Atgyfeirio Cynnau Tân ar gael i’ch cynorthwyo.
Gallwn ddarparu rhaglenni hyblyg, wedi’u teilwra i fodloni anghenion y plentyn neu’r person ifanc dan sylw. Er enghraifft, os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad sy’n poeni am blentyn sy’n chwarae â matsis neu daniwr yn y cartref, gallwn ni ymweld â’ch cartref i siarad gyda chi a’ch plentyn ac i ddangos y peryglon sy’n gysylltiedig â chwarae â thanwyr iddo/iddi. Yna, byddwn yn eich gwahodd i ymweld â gorsaf dân, cyn belled bod pawb yn glynu at y Cynllun Diogelwch Tân yn y Cartref y byddwn yn ei ddatblygu ar eich rhan.
Neu os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda pherson ifanc sydd un ai wedi cael rhybudd gan yr heddlu mewn cysylltiad ag achos o gynnau tân bwriadol yn y gymuned neu sydd wedi cael ei ddedfrydu am gynnau tân yn fwriadol, gallwn ddarparu rhaglenni hirach sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn yr orsaf dân leol.
Bydd y teulu a/neu’r unigolyn sy’n gwneud yr atgyfeiriad yn penderfynu ar y cyd pa raglen i’w dilyn.
Fel arfer, mae ein rhaglen SAFE yn cynnwys 4 sesiwn, er bod modd ychwanegu at y sesiynau os oes angen a’u teilwra’n benodol i ddiwallu anghenion y person ifanc, yn ddibynnol ar yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud, e.e. gosod ceir ar dân, tanau glaswellt, cynnau eiddo ar dân. Yn ogystal, gallwn drefnu ymweliadau i’n hystafell reoli neu gyfarfod â’r Tîm Archwilio Tân. Mae dau ymarferydd cyfiawnder adferol yn rhan o’r tîm ac maen nhw wedi defnyddio’r prosesau hyn yn llwyddiannus mewn nifer o achosion.
Fel arfer, mae ein rhaglen FIRESAFE yn cynnwys 10 sesiwn wedi’u strwythuro sy’n anelu at fynd i’r afael â byrbwylltra a meddwl canlyniadol, ynghyd â datrys problemau, meddwl amgen, gwneud penderfyniadau ac empathi dioddefwr trwy gyfres o gemau ac ymarferion sgiliau meddwl. Mae’n bosibl defnyddio’r rhaglen mewn achosion mwy difrifol ac mae modd cynnwys y cofnodion mewn adroddiadau cyn-dedfrydu mewn achosion o gynnau tân bwriadol neu ddifrod troseddol gan dân.
Mae CYT yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer ymyrraeth yn uniongyrchol gan deuluoedd neu asiantaethau sy’n cefnogi plant a theuluoedd. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau yn ymwneud â’r Coronafeirws, nid ydym ar hyn o bryd yn cynnal ymweliadau cartref nac ymweliadau â Gorsafoedd Tân. Gall ymarferwr ymyriadau gosod tân roi gwybodaeth ac adnoddau’n uniongyrchol i blant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr yn ogystal â chadw mewn cysylltiad dros y ffôn a chysylltu drwy law e-bost i drafod cynnydd o ran ein llyfrau gwaith. Os oes cyfleuster fideo-gynadledda gyda chi gallwn hyd yn oed ddod i gwrdd â chi’n rhithiol! Os oes angen larymau arnoch chi, bydd yr ymarferydd yn trafod ychydig o opsiynau i’w gael i chi.
Cysylltwch ar 01443 232000 neu cact@decymru-tan.gov.uk