Cymhwyster i fyfyrwyr rhwng 14 ac 19 oed yng Nghymru yw Bagloriaeth Cymru. Mae’n cyfuno sgiliau datblygu personol gyda chymwysterau presennol fel Lefel A, NVQ a TGAU i greu un dyfarniad ehangach a gymeradwyir gan gyflogwyr a phrifysgolion. Mae Bagloriaeth Cymru’n darparu profiadau ehangach o gymharu â rhaglenni dysgu traddodiadol. Mae modd astudio Bagloriaeth Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, neu gyfuniad o’r ddwy iaith.

Nodau

Nod Bagloriaeth Cymru yw darparu cwricwlwm ehangach a mwy cytbwys i ddisgyblion 14-19 oed a helpu myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n ddeniadol i sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr. Mae pwyslais ar ddysgu trwy wneud, tra bod cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn cael eu gwerthfawrogi yn yr un ffordd.
Bellach, mae pob Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymgysylltu â Chyd-drefnwyr Bagloriaeth Cymru yn eu hardaloedd ac rydym yn parhau i hyrwyddo heriau Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau mewn cysylltiad â chefnogi gweithgareddau gostwng peryglon lleol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.