Croeso i’n Cynllun Gwella Blynyddol diweddaraf, sy’n edrych yn ôl ar ein cyflawniadau yn 2022-2023 ac ymlaen at ein cynlluniau ar gyfer 2024-2025 a fydd yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth o gadw De Cymru’n ddiogel drwy leihau risg.

Rydym am glywed eich barn am ein Cynllun Gwella Blynyddol a’r blaenoriaethau rydym wedi’u hamlinellu ar gyfer 2024-2025. Mae angen inni fod yn barod i ymateb pan fyddwch ein hangen, i atal tanau ac argyfyngau eraill ac i amddiffyn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Ydych chi’n meddwl ein bod wedi ystyried y risgiau sy’n bwysig i chi a’ch cymuned?

Cwblhewch ein harolwg ar-lein i Dweud Eich Dweud – rydym yn argymell eich bod yn edrych ar y cynllun cyn ymateb.

Gallwch bob amser ddweud eich dweud drwy anfon e-bost atom yn ded@decymru-tan.gov.uk

Darllenwch ein Cynllun Gwella Blynyddol newydd yn llawn, neu edrychwch ar ein fersiwn darllen cyflym: